Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymetyb i hiraeth artist am y gân ni chanwyd, ac i hawl bardd i'w dragwyddol heol- Ni fedd ffosilod y credöau cwyr Undim i'w roi i fardd ond gwely a bwyd Llinell a llaw; i fardd daw'r dynged drist O'i hoelio gan y crachach, fel y Crist. Ceir yn ei ail gyfrol hon ganu anodd a chanu hawddach, ond nid byth ganu rhwydd. Dywed Huw Llewelyn Williams yn y cyflwyniad Diddorol fydd cymharu Hydref y gyfrol hon â Hydref cyfrol Eisteddfod Genedlaethol 1941 Gwir bob gair. Perffeithydd oedd Rolant. Collwyd bwrlwm ei arabedd o'n plith yn gynnar. Diolch am rai o'i berlau yn y gyfrol wych hon. DAFYDD OWEN Deia1999: rhagor o orchestion Wil Ni C.I.D., gan W. J. Gruffydd. Gwasg y Brython. 6/6. Yn y gyfrol hon ceir saith o straeon am y ditectif, Wil Ni. Byddant yn sicr o apelio at fechgyn tua 11-13 oed oblegid hyd y gwelaf y maent yn enghreifftiau digon teg a chelfydd o'r math hwn o beth, a'r darluniau yn eithaf effeithiol. Ianto, brawd y ditectif, sy'n adrodd yr hanesion a hynny mewn tafodiaith. Gan nad yw'r dafodiaith yn eithafol y mae'r llyfr yn mynd i ddysgu tipyn am y gyfran hon o gyfoeth y Gymraeg. Eithr da o beth fyddai cael rhywun wrth law i esbonio nad yw'r ffaith fod Emrys yn y ffliw yn golygu ei fod â'i ben yn y simnai. Yn wir, mi ddywedwn i mai straeon i'w hadrodd ydynt, a rhai y gallai athro eu defnyddio i fygwth yn ystod yr wythnos ac i ddifyrru a gwobrwyo ddydd Gwener. Un awgrym bach, o gofio fy chwaeth fy hun pan oeddwn yh fachgen, camgymeriad yw rhoi gwraig i Wil Ni, neu o leiaf wraig yn chwarae rhan amlwg a sentimental ar brydiau. Gobeithiaf y gall yr awdur gael gwared ohoni mewn dull gyfreithlon a charedig! Ond ar wahân i hyn dyma lyfr a rydd oriau lawer o bleser i fechgyn anturus. R. COETMOR WILLIAMS