Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwr o Baradwys, gan Ifan Gruffydd. Gwasg Gee, 10/6. Bûm innau ym Mharadwys unwaith. Crwydro ar goll ym Môn, mynd heibio i dro sydyn yn y ffordd, a gweld glamp o sein o flaen y llythyrdy yn cyhoeddi fy mod ym Mharadwys! Ni welais Ifan Gruffydd yno, ond 'rwy'n hynod falch o'i nabod yn y llyfr yma. Mae'n gwmnïwr diddan sy'n stribedu storïau difyr wrth y llath. Os gwir mai rhoi diddanwch yw prif amcan celfyddyd, y mae hwn yn artist i'r carn. Mae yma grefftwr o lenor, yn dethol ei eiriau'n ddewinol, yn mynegi ei feddwl yn raenus, a chanddo ddawn arbennig i ddisgrifio golygfa neu berson, y ddawn i sylwi ar fanion sy'n rhoi lliw a bywyd i bob darlun. Teimlwn weithiau y carwn iddo fod yn llai o lenor, ac yn sgwrsio â mi yn amlach yn ei iaith feunyddiol. Credaf fod cyfrol fel hon yn cyfiawnhau sgrifennu'n fwy tafod- ieithol. Brithir ei frawddegau â geiriau cefn gwlad a throeon ymadrodd amheuthun. Ceir yma ddarlun o'r gymdeithas sydd wedi diflannu bron: ei chymdogaeth dda a'i chreulondeb. Ceir yma hanes caledi ei fywyd cynnar, creulondeb yr ysgol, ei brofiad fel gwas bach, bywyd y llofft stabal, troeon digrif a chwerw fel milwr (er y carwn wybod mwy am y modd y clwyfwyd ef yn Ffrainc,) a'i brofiad fel garddwr i deulu'r plas. Mae ganddo'r ddawn i ddychanu'n slei weithiau: Sais oedd Mr Lakin, wrth gwrs, dyna pam y cyferchid ef fel Mistar." Cyfrol yw hon a rydd lawenydd i bob Cymro cyfrol gan wladwr diwylliedig, olynydd teilwng i Bob Lloyd a'i Bethe. Gobeithio y caiff fywyd ac iechyd y gaeaf nesaf yma i sgrifennu yr ail gyfrol o'i atgofion. Hwn a Ron a'r Llall, gan Wil Cwch Angau. Gwasg Gee, 9/6. Y mae Wil Cwch Angau yn prysur ymuno ag awduron toreithiog Cymru, oherwydd dyma'i drydydd llyfr mewn llai na thair blynedd. Yn ei gyfrol gyntaf dywed na fynnai alw'r stwff yn llenyddiaeth, ond y mae mawr angen am lyfrau ysgafn o'r fath. Ceir yn y gyfrol ddiwethaf yma holl rinweddau'r gyfrol gyntaf honno, ond yn rhagori arni o ran cynnwys. Y mae'r cyfuniad o dafodiaith a brawddegau uchel-ael yn ogleisiol, yn ormodiaith