Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

amlwg yn llawn hiwmor, ac mae'r cellwair slei a'r dychan sydd mor ffasiynol heddiw yn byrlymu drwyddi. Mae'r arddull chwydd- edig yn gweddu i'r dim i'r cymeriadau rhyfeddol ac anhygoel. Carwn petai rhai o'i frawddegau'n llai cymhleth, oherwydd y rhai cwta sy'n gogleisio fwyaf. Hawdd yw pigo beiau, ond i ba ddiben, gan fod hyd yn oed y diffygion yn ychwanegu at yr hwyL Fel Ifan Gruffydd, dyma gwmnïwr gwych arall, a gresyn na buasai mwy o'u tebyg yng Nghymru i gymell gwên ar wyneb llwyd ein llenyddiaeth. A siarad yn nhafodiaith Wil, daeth gwên i grychu plat, a chwerthin i oleuo camera, un bondi o leiaf." Plant y Niwl, Drama Dair Act, gan Gwilym T. Hughes. Gwasg Gomer. 3/ O wybod am fuddugoliaethau mynych yr awdur ar sgrifennu dramâu i'r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn arbennig y ganmoliaeth hael a dderbyniodd ei waith eleni, disgwyliwn i'r ddrama hon fod yn un dda, ac ni ches fy siomi. Enillodd y brif wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor ddwy flynedd yn ôl, a dyma ddwy frawddeg amdani o feirniadaeth John Gwilym Jones: Er bod yr ymdriniaeth ar yr wyneb yn ysgafn a gwamal yn aml, mae gan yr awdur rywbeth i'w ddweud am y natur ddynol. Gwelodd ei chymhlethdod a'i hanghysondeb a'i thrin yn oddefgar er yn feirniadol." Mae'r grefft yn lân, y ddeialog yn ystwyth, a'r gymeriadaeth yn gadarn. Ac y mae ei thema yn hollol gyfoes, a'i neges yn effeithiol. Ceir hefyd y gwrthdaro sy'n hanfodol i ddrama, nid yn unig rhwng y cymeriadau, eithr yn y cymeriadau eu hunain yn ogystal. Ni bydd yn anodd ei gosod ar lwyfan bychan a'i chyflwyno gan gwmnïau amatur, a gobeithio y digwydd hynny yn aml. R. BRYN WILLIAMS Bu Farw Ezra Bebb, gan William Owen. Gwasg Gee. 8/6. Cymro a fu'n ymladd ym myddin Prydain yn ystod y Rhyfel dros Annibyniaeth yn America yw Ezra Bebb; gŵr o'r ddeunawfed ganrif bob modfedd ohono. Ef ei hun sy'n cofnodi ei stori ar ffurf dyddiadur rhwng y dydd olaf o Dachwedd 1781 a Mai 13 1872. Gan fod dirgelwch yn ogystal ag anturiaeth yn rhan o'i stori, nid af i ddifetha eich mwynhad yma trwy roi crynodeb o droeon rhyfedd,