Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bryniau Maldwyn ganrif a thrichwarter a mwy yn ôl. I grybwyll Keats unwaith eto-petai gennym hanner y diddordeb sydd gan ei garedigion ef yn ei hanes, byddem yn sefydlu Cymdeithas Ann Griffiths ac yn cyhoeddi Bwletin blynyddol i drafod mwy o ddeunydd tebyg i hyn, fel y gwna'r Keats-Shelley Memorial Society yn Rhufain a Llundain. [Cywirwch 1838 yn 1858 ar tud. 50.— D.T.] D. TECWYN LLOYD Seirff yn Eden, gan Gwilym R. Jones. Gwasg y March Gwyn. 10/ Troi'r Drol, gan Huw T. Edwards. Gwasg y March Gwyn. 12/ Amheuthun yw cael dwy gyfrol newydd fel hyn o Wasg y March Gwyn, dwy gyfrol hynod o werthfawr, eto mor wahanol i'w gilydd, a nod personoliaeth eu hawduron mor amlwg arnynt. Nid yn aml, y dyddiau hyn, y ceir cyfrol yn ymwneud â chyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond dyna a geir yn Seirff yn Eden. Camp y gyfrol yw mai trwy lygaid plant y gwelir y blynyddoedd erchyll hynny, a'u gweld fel y gwêl plant hwy heb ormod o gymhlethdod. Cyfnod bachgendod criw o hogiau mewn dyffryn diwydiannol cwbl Gymraeg yng Ngwynedd yw Eden y stori, ac yn amrywiaeth eu profiadau gwelir effaith y rhyfel arnynt hwy a'u cyfoedion a phobl hyn na hwy. Mae'r Seirff o'u cwmpas ym mhobman, fel y maent ymhob oes, ond cynnyrch ardal a chyfnod arbennig yw'r rhain, ac y mae gwead y gyfrol mor syml a chywrain fel y gallent amrywio yn ôl ymateb y darllenydd ei hun. Teimlir ffresni llyfrau fel Tom Sawyer wrth ddarllen y gyfrol: y direidi, y tristwch, y chwarae, y troeon trwstan, yr ofn a'r llawen- ydd a'r symlrwydd. Mae'r prif gymeriadau-Wil a Dei a Huw a ChIedwyn-yn bersonau cofiadwy ac annwyl fel y mae cymeriadau Mark Twain i gyd. Lliwgar, hefyd, yw cymeriadau fel Non a'r hen-chwarter-i-dri," na fyddai direidi'r hogiau yn gyflawn hebddynt. Cyfnod ieuenctid pawb a geir yma yn ei naturioldeb a'i onest- rwydd a'i anaeddfedrwydd a'i frwdfrydedd, ac fe'i gwelir yn erbyn