Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEISIO CYMOD YN IWERDDON Gan GEORGE M. LL. DAVIES I [Yn 1922, fe wnaed Cytundeb Heddwch rhwng Llywodraeth Prydain a'r Gwyddelod a fu'n ymladd dros ryddid eu gwlad. Y mae hanes y Cytundeb wedi ei adrodd mewn llawer llyfr yn ystod y deugain mlynedd diweddar. Rhoddir clod amdano i Lloyd George ac Arglwydd Birkenhead a Tom Jones, a dynion eraill, ar ochr Prydain; ac i Arthur Griffith a Michael Collins a De Valera, a Gwyddelod eraill, ac yr ochr arall. Ond y mae'n syn iawn gennyf feddwl nad oes yr un o'r llyfrau a welais i yn sôn am y rhan bwysig a gymerth George M. LI. Davies mewn dwyn y ddwy blaid i gyfarfod â'i gilydd. Ysgrifennodd ef ei hun fraslun o'r hanes yn ei ddau lyfr, Profiadau Pellach a Pererindod Heddwch, a braslun helaethach mewn tair ysgrif yn Welsh Outlook, 1924 a 1925, o dan y teitl Ireland and World Politics. Trwy ganiatâd caredig ei weddw, Mrs Lesley Davies, yr wyf am gyfieithu rhannau helaeth o'r ysgrifau hyn i'w cyhoeddi yn Lleufer, i helpu dwyn yr hanes unwaith eto i'r amlwg. (Cwtogiad o ysgrifau George Davies sydd yma; y mae ganddo, er enghraifft, rai sylwadau llym ar yr eglwysi, a'u difaterwch a'u diymadferthedd yn wyneb yr erchyllterau a gyf- lawnwyd yn Iwerddon, ond gadewais y rheini i gyd allan, am yr unig reswm eu bod yn amherthnasol i ddibenion y cyfieith- iad hwn). Bu cynrychiolwyr Iwerddon yn Senedd Prydain yn dadlau'n galed am flynyddoedd dros Ymreolaeth i'w gwlad, ac yr oedd pob rhan o Iwerddon yn gryf wrth eu cefnau, ac eithrio talaith Ulster, yn y gogledd-ddwyrain, lle'r oedd y rhan fwyaf o'r bobl yn Brotestaniaid. Pasiodd y Llywodraeth Ryddfrydol o dan Mr Gladstone, y Prif Weinidog, Fesur Ymreolaeth ddwywaith drwy Dy'r Cyffredin, yn 1886 a 1893, ond gwrth- odwyd ef gan y Torïaid yn Nhŷ'r Arglwyddi. Pan ddaeth y Rhyddfrydwyr i awdurdod gyda grym yn 1906, pasiwyd Mesur i gyfyngu ar hawl yr Arglwyddi wrthod Mesurau Tŷ'r Cyff- redin, a daeth Mesur Ymreolaeth i Iwerddon yn Ddeddf yn haf 1914. Cyn hyn. vr oedd Ulster, gyda chefnogaeth arwein- wyr y Torïaid yn Nhy'r Cyffredin, yn bygwth gwrthryfel yn erbyn y Mesur, ac wedi trefnu byddin i'w wrthsefyll drwy rym