Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arthur Griffith yn cyhoeddi yn gyson eu parodrwydd i groesawu unrhyw gynllun gonest o hunan-lywodraeth i genhedloedd bychain yr honnwyd ei fod yn brif amcan y Rhyfel Mawr. Pan oeddwn yn Nulyn yn 1920, cefais sgwrs breifat ag ef-yr oedd yn ymguddio ar y pryd-ynghylch y telerau yr oedd yn barod i'w cynnig i gyfarfod â phrif wrthwynebiadau Lloegr i ofynion y Sinn Ffein- iaid. Cafodd Downing Street wybod beth oedd y telerau hyn, a chymhellwyd telerau cyffelyb ar Lloyd George gan Syr Horace Plunkett ac arweinwyr eraill Mudiad Statws Dominiwn yn Nulyn. Yr oedd yn hysbys ei fod yn siglo'n wyllt rhwng dau feddwl. Cofiaf gyfarfod ag Art O'Brien oddeutu'r adeg honno yn Llundain; ef oedd cynrychiolydd Cynghrair Hunan-Lywodraeth Wyddelig, a bu wedi hynny yngharchar. Llefarodd ag angerdd am erchyllterau'r Black and Tans. Sicrheais ef mai nid amddiffyn y Llywodraeth oedd fy ngwaith i, ond gresynwn am y creulonderau ar y ddwy ochr. Gofynnais iddo: "Tybiwch fod y Prif Weinidog yn gwneud menter fawr ffydd, ac yn peryglu ei yrfa wleidyddol ei hun mewn ymgais o ddifrif dros heddwch a rhyddid". Atebodd yr "Eithafwr" hwn: "Pe gwnâi ef hynny, fe anwylid ei enw yn Iwerddon hyd yn oed heddiw fel y pennaf o wladweinwyr". Ond penderfynu dros orfodaeth a wnaeth Lloyd George. Yr oedd ei anerchiad enwog yng Nghaernarfon o blaid y Black and Tans mewn cytgord naturiol â meddylfryd Carson a Northcliffe, a'r Morning Post a'r Daily Mail. Ond bedair-awr-ar-hugain cyn hynny, yng nghyfarfod Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Cymry yn Llandudno, Hydref 8, 1920, yr oedd gwraig fonheddig ddewrfrydig (a'i chalon, trwy ddioddefaint, wedi ei gwneud yn gryf i esmwytho dioddefaint) wedi erfyn arno fentro'r ffordd well yn Iwerddon. "Mi wn i, mi wn i", meddai yntau yn gynhyrfus iawn, "mi wn fod yn rhaid cael gweithred o ffydd, a mentro peryglon. Rwy'n disgwyl ac yn gwylied am yr awr gyf- addas-y munud y gwelaf fy nghyfle fe'i cymeraf". Atebodd hithau, "Yr awr gyfaddas i Ffydd bob amser ydyw YN AWR". Aeth y rhyfel yn Iwerddon yn ei flaen. Ddiwedd Mai, 1921, yr oeddwn yng Nghaeredin yn ystod wythnos y Gymanfa Gyffredinol, a chyfarfûm yno ag Is-Iarlles Aberdeen. Buasai ei gŵr hi yn Rhaglaw Iwerddon, a daeth hi ag ysbryd serch ac ymddiried a chyfeillgarwch i Lys y Rhaglaw yn Nulyn, y fath na welwyd yno erioed o'r blaen. Yr oedd y wraig oedrannus galon-gynnes hon wedi teithio o Ddulyn i annerch cyfarfodydd yng Nghaeredin a lleoedd eraill i ddeffro'r wlad i wrthwynebu amodau arswydus llywodraeth filwrol yn Iwerddon.