Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ond yr oedd yn rhaid i'r llythyr hwn, os oedd i fod o ryw werth, gyrraedd De Valera cyn i'r cyfarfod yn y Mansion House ddechrau. Pan gyrhaeddais yno, gwelais fod yr adeilad wedi ei amgylchu gan dyrfa enfawr. Nid oedd dim imi i'w wneud ond ymddiried fy llythyr i'r dyrfa i'w drosglwyddo 0 law i law nes imi ei weld yn cyrraedd y drws. Yr oedd yr olygfa yn un ddiangof. Rhuthrai lyriau anfad y Black and Tans i fyny ac i lawr Stryd O'Connell, ond yma yr oedd torfeydd Sinn Ffein yn codi eu hetiau ac yn gweiddi cymeradwyaeth pan gyrhaeddodd yr Arglwydd Middleton a'r Undebwyr Deheuol eraill. Ar hyd yr amser yr oedd y Gyn- hadledd yn eistedd, gellid gweld cwmnïau o bobl ar eu gliniau yn gweddio. Yn hwyr yn y prynhawn, ceisiais unwaith eto gyrraedd yr Arlywydd trwy ffônio o'r Mansion House. Daeth Erskine Childers at y ffôn ac yr oedd yn amlwg ei fod mewn cyflwr cynhyrfus, "Dowch ar unwaith", meddai, "y mae'r Arlywydd wedi gofyn amdanoch lawer gwaith". Gwthiais fy ffordd trwy'r dyrfa, a der- byniwyd fi gan Childers; mewn ychydig funudau arweiniwyd fi i mewn at De Valera, ac yr oedd fy llythyr ganddo yn ei law. Synnais weld mor dawel a digynnwrf ydoedd wedi holl gynnwrf a phryd- eron y dyrfa tu allan; tynnodd ei gadair tuag ataf, a gwrandawodd ar fy stori. Cefais y stori hon yn un 0 lyfrau Agatha Christie. Aeth heliwr i Affrica i hela llewod. Daeth allan o'i babell un bore, a gweld llew mawr yn sefyll gerllaw, a chofiodd ei fod wedi dyfod allan heb ei wn. Neidiodd y llew amdano; syrthiodd yntau yn ei fraw, a neidiodd y llew drosto. Gofalodd am godi fymryn yn nes at ddrws y babell. Neidiodd y llew amdano drachefn; syrthiodd yntau o bwrpas y tro hwn, ac aeth y llew drosto. Digwyddodd hyn ddwywaith neu dair wedyn. ac yna yr oedd yn ddigon agos i'w babell i slipio i mewn. Daeth allan â'i wn yn ei law; ond yr oedd yr hen lew wedi diflannu. Toc, clywodd dwrw yng nghefn y babell, a sleifiodd yn ddistaw bach i weld beth oedd yn bod. Ac yno yr oedd yr hen lew "he was practising low jumpsl