Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATGYFODI Y MAE rhai o'm hoff gerddi Cymraeg gan feirdd diweddar wedi eu claddu mewn cyfnodolion, a heb eu hail-gyhoeddi mewn Ilyfrau; ac am hynny nid ydynt yn agos mor adnabyddus ag yr haeddant fod. Trwy ganiatâd caredig eu hawduron, neu eu teulu, yr wyf am atgyfodi ychydig bach ohonynt, a'u cyhoeddi yn Lleufer. GAN PERCY HUGHES Ar wawr o Fehefin Ym mangre'r hedd, Gwelais y rhwydwaith O fedd i fedd. 'Roedd gwëad perffeithrwydd Rhwng maen a maen, Pob dolen yn grefftw?ith, Yn ôl ac ymlaen. Daeth haul dros y clochdy A'i gusan a'i wên, Diflannodd y brodwaith O'r meini hen. Ond yn y tawelwch Yn ddiogel iawn, 'Roedd tyrfa yng ngafael Rhwyd gryfach na'r gwawn. O Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Gadeiriol Lewis's, Lerpwl, 1952. (Trwy ganiatâd caredig Mrs Percy Hughes) Mae llen gêl ar wallt melyn, Mae ar y gwallt farmor gwyn.—Lewis Glyn Cothi. 5. Y RHWYD