Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GEORGE MAITLAND LLOYD DAVIES GAN A. DAN THOMAS O'M blaen y mae dau lun un o George Davies fel swyddog yn y Tiriogaethwyr (4th Battalion Royal Welch Fusiliers), a'r llall ohono wedi'r heldrin o garchar Knutsford, Dartmoor, a thorri cerrig ar ymyl y ffordd fawr rhwng Llanwrda a Phumpsaint yn Sir Gaer- fyrddin. Ond â llygaid fy meddwl gwelaf ddarlun arall o wr ifanc, tal, gosgeiddig, yn symud o fan i fan ym mhrif swyddfa'r banc fel tywysog. Ac yn wir tywysog oedd-o gwr yn llawn gras ac urddas. A dyna'r darlun a garaf i orau o'r tri, a rheswm da am hynny. Oherwydd ei swydd ysgrifennydd prif reolwr y swyddfa yr oedd o angenrheidrwydd yn gorfod bod yn yr amlwg ac amhosibl fyddai peidio â sylwi arno, oherwydd ei daldra a'i osgo. Gofynnais i gydweithiwr pwy oedd-o, a dyma'r ateb syfrdanol a phroffwydol a gefais, O, that bloke? that's bloody St Francis." Deuthum i wybod yn ddiweddarach mai un o'r creaduriaid mwyaf anystyriol ar staff y banc a roddodd yr atebiad yna imi, ond buan iawn y deuthum i sylweddoli na chefais erioed ateb mwy cywir i unrhyw ymholiad o'm heiddo. "Gan y gwirion y ceir y gwir", ie, a chan ambell ynfytyn hefyd weithiau. Bûm mewn llawer i ysgarmes pan gychwynnais fy ngyrfa yn y banc. 'Roeddwn yn ymwybodol iawn mai Cymro oeddwn, ac yr oedd agwedd bechgyn eraill, ie, a rhai dynion hefyd yn y swyddfa, yn creu rhyw fath o dyndra ynof. Ceisiwn fy nghadw fy hun rhag ffrwydro, ond methais droeon. Cefais reswm lawer gwaith i deim- lo'n ddiolchgar i'r "bloody St Francis". Hogyn o'r wlad oeddwn pan euthum i Lerpwl, wedi arfer â chael mwynhau rhyddid yr eangderau a chyfeillgarwch di-rodres pobl y wlad. Yr oedd bod mewn swyddfa fawr yn arswyd imi. Anaml y gwelwn wên ar wynebau y bobl bwysig, a chymaint y profocio arnaf gan eraill nes imi ddod i deimlo mai gwawd oedd tu ôl i'r rheini. Y mae'n rhaid fod George Davies wedi clywed am fy mân ysgarmesoedd, oblegid gwelwn ef un bore yn cyfeirio'i gamre tuag ataf, a phan oedd ar fy nghyfer estynnodd ei law ataf, ac wedi dweud yn syml beth oedd ei enw, ac mai Cymro oedd-o, er na fedrai siarad fawr o Gymraeg, gwahoddodd fi i fynd gydag ef i gael cwpaned o goffi. Eisteddai gyferbyn â mi yn y t9 coffi ac amhosibl oedd peidio â sylwi ar ei wedd. Yn ei wyneb yr oedd yna