Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oddi wrth hen wragedd a gwŷr bregus y cymoedd di-waith, oddi wrth Aelodau Seneddol a gweinidogion y goron, oddi wrth blantos bach ac, er cysur mawr i galon George, oddi wrth ddosbarthiadau Ysgolion Sul. Dyma un llythyr a ddaeth i'm llaw fel trysorydd y Gronfa: Dyma finnau yn bwrw fy hatling i'r gronfa. Braint a hyfryd- wch yw cael gwneud hynny. Amgaeaf siec fel cydnabyddiaeth fechan i Ragluniaeth am ddarpar gŵr fu mor ddiwyd yn ceisio'n cadw ni'n felys mewn oes mor chwerw. T. Gwynn Jones. Dyma rai atgofion am un a fu yn Sant, yn Broffwyd, ac yn gyfaill. Yn y banc neu yn y carchar; ar y tir neu ar y ffordd fawr; o flaen Cyfrin Gyngor y Wladwriaeth neu ymhlith ei werinos ang- henus; mewn byd neu eglwys ymha le bynnag y bu, safodd hwn yn gadarn, ond ei argyhoeddiad pennaf oedd nad oedd cymod yn bosibl heb gyfeillgarwch, ac mai Crist oedd i fod yn "ben-congl- faen" i'r cwbl. Wrth gynnig diolch imi am ryw ddarlith fechan a roddais ar George, dywedodd rhyw foneddiges fod ei thad wedi cael pin dur newydd, ac mai ei hoff bleser fyddai ysgrifennu enw George lawer gwaith trosodd i roi prawf ar ei bin. Er syndod i'r teulu, pan edrychasant ar y papur, yr hyn a welsant oedd y llythrennau "G.M.L1.D." wedi eu hysgrifennu lawer gwaith trosodd nes llenwi'r tudalen. Pan ofynnodd un o'r teulu beth oedd ystyr y llythrennau, yr ateb syml oedd, "Gwr Mawr yn Llaw Duw", a dyna dystiolaeth a theyrnged yr oedd George Maitland Lloyd Davies yn ei gwir haeddu. Yn ôl Cyfrifiad 1961 mae 656,000 o bobl Cymru yn Gymry Cymraeg. Wrth gwrs, ni cheir yn y cyfrif hwn y miloedd o Gymry Cymraeg y tu allan i Gymru, a phwysig cofio, hyd y mae cofnodion ar glawr, na bu erioed gyfnod pan allai miliwn o bobl yng Nghymru siarad Cymraeg, ac felly na ddylid tybio bod y lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg mor fawr ag y gwneir weithiau. — Adroddiad Cyngor Cymru ar yr laith Gymraeg (1963).