Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN FEIBIL FY NAIN Gan MARY SILYN ROBERTS UN o Tyn'r-Ardd, Nant Bwlch yr Heyrn, oedd nain Mrs Silyn Roberts ar ochr ei mam; wedi ei phriodas ag Evan Williams, bu'n byw yn T9 Newydd, Llanrychwyn, hyd ddiwedd ei hoes. "Byddai Dydd Sul Nain yn dechrau am chwech o'r gloch Nos Sadwrn", meddai Mrs Roberts wrthyf. "Bob Nos Sadwrn, am chwech o'r gloch, mi fyddai Nain yn hel i phethau i gyd at i gilydd i'r fasged wnio fawr, a hongian honno oddi ar ddistyn to'r gegin tan fore Dydd Llun. Ond un Dydd Sul, mi ddoth Nain adre o'r capel â golwg gynhyrfus a phenderfynol arni, ac er braw i'r plant i gyd, dyma hi'n estyn y fasged wnïo oddi ar y bach, ac yn tynnu'r siswrn mawr allan. Wedyn, dyma hi'n gafael yn nalennau canol yr hen Feibil mawr oedd bob amser yn agored ar fwrdd y gegin, ac yn i torri-nhw allan. 'Roedd y pregethwr yn deud yn i bregeth', meddai hi, 'nad oedd hwn ddim yn rhan o'r Beibil, ac na ddylai-o ddim bod i mewn ynddo; rhaid i losgi-o'. Ond welodd neb ddim beth a wnaeth-hi â'r bwndel dalennau hynny o'r Apocryffa chwaith. Fy Modryb Liz oedd yn dal Tŷ Newydd ar ôl marw Taid a Nain o fewn rhyw chwe mis i'w gilydd. T9 to gwellt oedd-o yn i hamser nhw, ond yn amser Modryb mi godwyd peth ar y waliau, a rhoi to llechi arno. Pan fyddai ysgolion Llundain wedi cau bob mis Awst, fe gaem ninnau blant fwynhau gwyliau'r haf, am dair wyth- nos neu fis ambell dro, yn T9 Newydd efo Modryb. Byddai'n sôn weithiau am Nain a'r wisg sidan oedd ganddi. Yr oedd hen sôn fod gan Nain, pan oedd yn ifanc, wisg sidan dew, hardd, oedd yn sefyll i hun. Roedd honno'n hongian yn yr hen gist fawr yn y siambar neu'r "Cwpwr Press". Lle i gadw dillad gorau oedd hwnnw, a dim ond y drysau uchaf yn agor, ac ni feiddiai neb ond Anti Liz ei agor, er na fyddai 'na byth glo arno. Mi fûm i'n dyheu llawer am gael gweld yr hen ffroc sidan, ond fedrais-i erioed ofyn i Modryb i dangos-hi imi. Ond un diwrnod, mi aeth Modryb i lawr i'r Ffair yn Llanrwst, a 'ngadael i gartre i ofalu am y plant. Mi fentrais i mewn i'r siambar, ac agor drws y gist, ac yno 'roedd gwisg sidan fy nain yn hongian yn i holl ogoniant ffrog dywyll braidd, yn sgleinio'n olau tra 'roedd y drws yn agor. Wedyn, mi es i mewn i'r gist, ac mi deimlais ryw becyn sgwâr, hir, ar y gwaelod, ac mi codais-o. Dalennau o bapur oedd yno, wedi 'u plygu a'u gwasgu'n dynn. Wedi imi i hagor-nhw, a gweld mai adnodau oedd