Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ROBERT LLOYD JONES GAN ARWYN LLOYD HUGHES MEWN sgwrs ag Idris Ll. Foster yn y rhaglen, Llwybrau Llên, ar y teledu yn ddiweddar, soniodd W. J. Jones, Ystradgynlais, am y llyfr Cymraeg a wnaeth fwyaf o argraff arno pan oedd yn blentyn. Enw'r llyfr hwnnw oedd Mêt y Mona, a'i awdur, Robert Lloyd Jones. Yn ddiweddar, bûm yn chwilota am wybodaeth am yr awdur ar gyfer ysgrifennu bywgraffiad ohono i'r Ail Atodiad o'r Bywgraffiadur Cymreig. Gan fod cyhoeddi'r Atodiad hwn ymhell iawn yn y dyfodol, penderfynais roi trefn ar y wybodaeth a gesg- lais, a cheisio llunio ysgrif fer am y gŵr hwn i Úeufer. Ganed Robert Lloyd Jones yn 10 Madog Street, Porthmadog, ar y 7 Rhagfyr, 1878, a'i fedyddio gan y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon). Ef oedd y chweched o'r deg plentyn a aned i Capten Robert Jones a'i wraig Elizabeth (Williams). Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd Porthmadog, ac Ysgolion y Bwrdd Minffordd a Phenrhyndeudraeth. Wedi hynny, bu am gyfnod byr yn Ysgol Uwchraddol Blaenau Ffestiniog, ac yn Ionawr 1894 aeth i Ysgol Ramadeg y Bechgyn, y Bala. (Ceisiodd prifathro ysgol y Bala, J. C. Evans, gael gan Capten Jones anfon ei fab i Goleg Llanym- ddyfri, gyda'r bwriad iddo gymryd urddau eglwysig maes o law. Ond, er i'r Capten gerdded dros y mynydd o Ffestiniog i'r Bala i weld y prifathro ynglŷn â hyn, ni phlygodd Ymneilltuaeth y tad i gynlluniau'r prifathro o Eglwyswr). Gorfodwyd R.L1.J. i ymadael ag Ysgol y Bala yn 1895 oherwydd marwolaeth ei dad trwy ddam- wain ar fwrdd ei long, y C. E. Spooner, ym mis Mai y flwyddyn honno. Dychwelodd i'w hen ysgol ym Mhorthmadog, lle'r arhosodd am y pedair blynedd nesaf yn ddisgybl-athro. Aeth i'r Coleg Normal, Bangor, yn 1899, ac ar ôl cwblhau ei gwrs yno yn 1901 cafodd swydd athro yn yr Ysgol Fwrdd, Porthmadog. Yn 1906, fe'i hapwyntiwyd yn brifathro Ysgol y Cyngor, Tremadog, ond dan berswâd cyson ei gyfaill William George, Cricieth, cynigiodd am swyddi prifathro mewn ysgolion mwy. Hyn a barodd iddo symud i Drefor, ger Pwllheli, yn 1913 yn brifathro Ysgol y Cyngor yno hyd 1928. Bu'n neilltuol o weithgar ym mywyd cyhoeddus Trefor a'r cylch, yn gymaint felly nes i'r ardalwyr ei alw'n "Faer Trefor". Yn 1928, daeth yn brifathro Ysgol y Cyngor, Lloyd Street, Llandudno, ac arhosodd yno hyd ei ymddeoliad yn niwedd mis Rhagfyr 1944. Symudodd i fyw i Dregarth, ger Bangor, yn