Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clôs a'i Fab, Y Tair Chwaer, Teulu'r Gelli. Bu llawer o berfform- iadau o'r dramâu hyn mewn cymdeithasau ym mhentrefi Cymru ar un adeg. Diddorol yw nodi mai R. Lloyd Jones a ffurfiodd Gym- deithas Ddrama y Gogledd, a oedd i ffynnu fel cangen o Undeb y Ddrama Gymraeg, yng Nghaernarfon, yn 1929. Cofir hefyd iddo fod yn feirniad llên a hanes yn rhai o Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd. O safbwynt bywgraffyddol, dylid nodi hefyd iddo fod â diddor- deb dwfn mewn materion addysgol, yn arbennig felly gydag Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT). Bu'n ysgrifennydd, ac yn ddi- weddarach yn llywydd, cangen De Sir Gaernarfon o'r Undeb, ac o 1934 ymlaen cynrychiolai brifathrawon y sir ar y Cyngor. Bu ar Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Ramadeg John Bright, Llandudno, am rai blynyddoedd. Yn ychwanegol at hyn, pregethai'n aml gyda'r gwahanol enwadau, a bu'n flaenor gyda'r M.C. yn olynol yn Nhrefor, Llandudno a Thregarth, ac ysgrifennai yn Y Goleuad.. Robert Lloyd Jones ysgolfeistr am dros ddeugain mlynedd, dramodydd a llenor y plant -wrth dalu'r deyrnged hon iddo cofiwn eiriau Enid Blyton: "The most readable novelists and authors are always those who have a story to tell and tell it with accomplishment". Dyna paham y bu llyfrau R. Lloyd Jones yn llwyddiannus yn eu cyfnod. Diolch i frodyr R. Lloyd Jones, sef William Morris Jones a Goronwy O. Jones, am y manylion bywgraffyddol. Hefyd i Ernest Roberts, Bangor, a Mansel Williams, Caernarfon, a phrifathrawon ysgolion Tremadog a Threfor, am rai dyddiadau. Y mae'n syn fel y gellir trydanu geiriau bach cynefin a'u gloywi i ogoniant. Ystyrier y geiriau bach treuliedig a disylw, "hen", "pell", a "mawr", geiriau nad oes dim mor gyffredin â hwy. Eto y mae'r beirdd wedi gallu eu gogoneddu wrth eu defnyddio'n gyf- rwys. Yn wir, wrth ddefnyddio gair cyffredin a'i ogoneddu, y mae bardd fel petai'n ei hawlio yn eiddo iddo'i hun. T. H. Parry- Wiìliams, yn Uoffion.