Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"RHAID AMDDIFFYN CYMDEITHAS" Gan MERFYN LLOYD TURNER YR oedd pawb a allai hawlio ei fod yn rhywun yn y carchar yn adnabod Taff. Ond yn ddamweiniol y deuthum i i'w adna- bod. Dwy flynedd yn ôl oedd-hi, a phapurau'r hwyr yn cynnwys paragraff am wel, gadewch inni ei alw yn Alfred Benjamin Jones, a ddedfrydwyd y diwrnod hwnnw i Garchariad Ataliol (preventive detention) am ddeuddeng mlynedd am ladrata o gar modur. Adroddai'r papurau ei fod wedi ffônio'r heddlu i gyfaddef ei drosedd, a galw arnynt i ddyfod i'w restio. Dywedodd y Barnwr, wrth gyhoeddi'r ddedfryd, fod yn rhaid amddiffyn cymdeithas rhag dynion o'i fath ef am dymor sylweddol. Bydd carcharor yn ystyried dedfryd fel hon yn ddiwedd y daith golyga fod cymdeithas wedi ei alltudio tu hwnt i bob gobaith. Rhoddir y gosb, nid yn gymaint am un trosedd, ag am holl gyfnod troseddau'r dyn. Yr oeddwn yn methu coelio fod stori fel hon am Jones yn wir. Gwyddwn fod y llysoedd, byth er pan roes Deddf Troseddwyr (Criminal Justice Act) 1949 fywyd newydd i Garchariad Ataliol, yn dedfrydu dynion i garchar am gyfnodau maith gyda rhwyddineb a awgrymai fod arnynt eisiau bwrw troseddwyr allan o gymdeithas am weddill eu dyddiau, pa mor fychan bynnag fyddai eu trosedd. Hyd yn oed felly, yr oedd deuddeng mlynedd am y nesaf peth i ddim bron yn anhygoel. I dawelu fy amheuon, penderfynais gael ymddiddan ag Alfred Benjamin Jones yn ei gell y tro nesaf y byddwn yn ymweld â'r carchar. Ond pan oeddwn yn sefyll tu allan i'w gell ddwy nos- waith yn ddiweddarach, mi betrusais. Yr oedd y Barnwr wedi dweud fod ar gymdeithas angen cael ei hamddiffyn rhag dynion fel hwn. Dychmygais ddyn mawr tal, cryf, rhyw droseddwr chwerw ymosodol, a allai droi arnaf yn ffyrnig cyn gynted ag yr awn i mewn i'w gell. Cesglais ynghyd hynny o ddewrder oedd ynof, datgloais y drws, gwthiais ef yn hanner-agored, a disgwyl am i gadair neu fwrdd neu lestr chwyrnellu tuag ataf. Ond nid oedd dim sŵn. Gwthiais y drws yn llydan agored a mynd i mewn. Edrychais o gwmpas y gell, ond nid oedd dim golwg am y tros- eddwr peryglus a ddisgwyliwn. Yn lle hynny, gwelwn ddyn bychan tenau, bywiog, yn eistedd ar y gwely ac yn gwenu arnaf. Neidiodd ar ei draed a'm cyfarch fel petaswn y dyn cyntaf a gyfarfuasai erioed. "Pnawn da", meddai, "gellwch eistedd ar fy nghadair i os myn-