Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

arnom ni angen am amddiffyniad? Oes, mewn rhai achosion. Ond cyn gynted ag y mae a wnelom â Taff, ef sydd mewn angen difrifol am ein hamddiffyniad ni. Y mae'n wirionedd trist fod yn ein car- charau y munud hwn lawer o rai tebyg iddo. (Trwy ganiatâd caredig y BBC) Y GWENYN Gan ROBERT OWEN Rhuthrent fel awyrennau cad i'r wybr Drwy lydan ddôr eu ffactri yn yr ardd; Troelli, a chodi'n uwch, a mynd hyd lwybr Na wyr un dyn amdano'n ddiwahardd: Dychwelyd wedyn gyda'u llwythi pêr O'r meysydd meillion ac o'r gelli draw, I'w storio yn eu crwybrau cain o wêr Erbyn yr hir dymhestlog nos a ddaw. A phan fo hirnych gaeaf dros yr ardd, A barrug enwyn ar bob dôl a bryn, Bydd yn eu warws rin Mehefin hardd I'w cynnal ac i'w llonni y pryd hyn: Rhyfedd fydd eu hendrefu, doed a ddêl, A'u pantri oll yn llawn o'r diliau mêl. Ni byddaf yn ymboeni llawer ag odlau a phethau felly, ond byddaf yn mynd dros gân ac ail-fynd trosti ugeiniau o weithiau i'w glanhau, a thynnu allan yr ansoddeiriau ystrydebol, a phob drycsain ac yn enwedig "ymsathr odlau"W. J. Gruffydd, yn Y Bardd yn ei Weithdy. Wrth y ford hiraethaf i Nad oes teircoes i'r twrci. — Dic Jones.