Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLANFAIR PWLL GWYNGYLL DARLLENAIS ysgrif yn Y Brython flynyddoedd yn ôl yn rhoddi esboniad John Morris Jones ar yr enw "Llanfair Pwll Gwyn- gyll". "Llanfair", sef "Eglwys y Forwyn Fair", ydyw enw'r plwyf, ond gan fod llawer o blwyfi o'r un enw yng Nghymru, chwanegwyd rhyw enw arall at bob un i'w hadnabod oddi wrth ei gilydd dengys y cofnodion hynaf mai "Llanfair Pwll Gwyngyll" ydyw enw cywir y "Llanfair" hon. Ond beth am yr enw hir sydd wedi difyrru cymaint ar y Saeson? Enw gwneud ydyw hwnnw, ac i ddifyrru'r Saeson y lluniwyd ef. Dywedodd yr Athro fod John Williams, saer dodrefn yn byw yn Nhal-y-bont o fewn i'r plwyf, yn cofio'r amser pan luniwyd yr enw, ac mai rhyw "deiliwr llengar" ym Mhorthaethwy oedd y cyfansoddwr. Ond o b'le y cafodd ei ddefnyddiau? Y mae dau drobwll go fawr yn Afon Menai heb fod ymhell oddi wrth ei gilydd un rhwng y ddwy bont, a elwir yn "Pwll Ceris", a'r llall yn ddienw ar yr ochr arall i Bont y Tiwb. Y mae'r ail yn agos i lannau Sir Fôn, ac y mae Eglwys Llanfair ar y llechwedd uwch ben. Pan oeddynt yn cloddio mewn hen gors i'r de o Orsaf Llanfair ym mhedwar-ugeiniau'r ganrif o'r blaen, cafwyd haen o gnau cyll, bedair i chwe modfedd o drwch, wedi ei chladdu yn y clai ryw ddeuddeng modfedd islaw wyneb y tir. Tybir, felly, fod llwyn o goed cyll yn gorchuddio'r tir yn y lle hwnnw ganrifoedd yn ôl, ac mai oddi wrth hwnnw y galwyd yr ail drobwll gerllaw yn "Bwll Gwyngyll", ac mai dyna paham y galwyd yr Eglwys uwch ben yn "Llanfair Pwll Gwyngyll" enw tlws iawn. Ac yn awr, dyma'r teiliwr llengar yn mynd ati i glytio'i enw digri i syfrdanu'r Sais. Nid yn unig y mae Eglwys Llanfair yn agos i Bwll Gwyngyll, ond y mae hefyd heb fod ymhell o'r chwyrn dro- bwll arall, sef Pwll Ceris; felly, y mae "go-ger y chwyrn drobwll". Y mae Eglwys Llandysilio ar ynys ymhen arall Pwll Gwyngyll; y mae "Llandysiliogogo" yn enw ar Landysilio arall yn Sir Aber- teifi; ac y mae'r "Gored Goch" yng nghanol Pwll Ceris. Rhoddwch y tri wrth ei gilydd, a chewch "Llanfair Pwll Gwyngyll go-ger y Chwyrn Drobwll Llandysilio Gogo Goch". Chwarae teg i'r teiliwr a'i glytwaith lliwgar! Bydd ymwelwyr o Saeson yn cael llawer o hwyl am ben yr enw hir-heglog hwn, heb sylweddoli mai i gael hwyl am eu pennau hwy y lluniwyd ef. Ysywaeth, y mae llawer Cymro taeogaidd sydd cyn baroted â'r Saeson hyn i wawdio rhywbeth nad yw yn ei ddeall.