Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DWY YSGOL FWRW'R SUL GAN TOM OWEN FY mraint yn ystod yr hydref oedd cael cyfranogi mewn dwy Ysgol Fwrw'r Sul, yn Llangollen ac yn Llandudno. Pwnc, ar bapur, pur wahanol yn y naill a'r llall, ond wedi cael profiad o'r drafodaeth yn y ddwy, ac wedi myfyrio uwch eu pennau wedi hynny, deuaf i'r penderfyniad fod rhyw ddolen gydiol rhyngddynt. Hwyrach mai ffansi fyfyriol o'm heiddo fy hun yw'r gosodiad hwn, ond pa un bynnag am hynny, mentraf osod y ffeithiau a gesglais ger bron darllenwyr Ueufer. "Yr Incwm Cenedlaethol a Chydraddoldeb" oedd pwnc Ysgol Llangollen, a'r darlithydd oedd Mr Baker, o Goleg y Brifysgol, Bangor, a dyma fraslun o'i syniadau ar y pwnc cyfoes hwn. Mae llwyddiant cyffredinol, llawn, yn tueddu i guddio'r gyfran a dderbyniwn ohono, ac ai cwestiwn o gyflogaeth lawn ydyw'r Uwyddiant hwn, ac a oes ynddo'r tueddiad i anghofio adran y dosbarthu ym myd economeg? Beth yw cydraddoldeb, ac a oes gan ein sustem drethiant lawer iawn i'w wneud ag ef? Paham y bydd dynoliaeth yn ymddiddori mewn cydraddoldeb, a'r drefn o'i fesur, a dull y Wladwriaeth o'i weinyddu? Mae cydraddoldeb yn effeithio ar bob aelod yn y Wladwriaeth, ac nid ar gyfran ohonynt yn unig. Er diwedd y rhyfel, cawsom y cyfnod hwyaf mewn hanes o gyflogaeth lawn, gorchwyddiad (inflatiorí), cynnydd cyson ym mhris nwyddau, a'r Llywodraeth Les ac ohonynt cyfyd dau gwestiwn: Sut y maent yn effeithio ar ein hincwm cyn ei drethu, ac ar ôl ei drethu? Y ddadl yn erbyn trethiant. Nid yw'r sustem Brydeinig o Drethu wedi ei sylfaenu ar bolisi o gydraddoldeb enillion; felly gallwn godi'r cwestiwn A ellir mesur bodlonrwydd mewn termau ariannol, neu gyflog? Y mae punt o godiad mewn cyflog yr un mor dderbyniol gan enillwyr y cyflogau mawr ag ydyw gan enillwyr y cyflogau bach. A ellir llunio ffurf o drethiant ar y ddel- fryd hon? Oni ddylai ein sustem drethu fod wedi ei sylfaenu ar anghenion, ac nid ar fodlonrwydd, oherwydd fe ellir cymharu anghenion un dyn â rhai dyn arall? Y mae'r awch am fwy mewn un dyn yr un mor gadarn ag yw anghenion y dyn arall. A ellir hawlio fod y sustem Brydeinig wedi creu mesur o fanteision cynull- iadol (collective benefits), a bod cydraddoldeb yn gil-gynnyrch hyn? Y mae corff wedi ei benodi i wneud Ymchwiliad i'r mesur o gyd-