Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nos a 24 dydd o wyliau. Telir lwfans plant gan y Wladwriaeth a'r cyflogwr, hwn wedi ei bennu yn ôl rhif y plant, a'r gofynion teuluol, y tâl tua 40 marc y mis. I'r pensiynwyr a'r methedig, telir tri- chwarter eu cyflog os byddant wedi rhoddi 50 mlynedd o waith, neu dair rhan o bump os byddant wedi gweithio am 40 mlynedd. Mae cyfraith wedi ei gwneud i ehangu meddiant tai a phreswyl- feydd, a chefnogir y gweithwyr i bwrcasu eu tai trwy roddi cymorth- dâl i wneud hynny. Cefnogir y gweithwyr hefyd i'r cyfeiriad hwn drwy roddi iddynt "industrial shares" yn eu gweithfeydd; a rhydd y Wladwriaeth gymaint â 30 y cant o gostau tir i ddosbarth gweith- wyr cyflog isel. Mae mesur o flaen y Senedd ar hyn o bryd i annog gweithwyr i gynilo mwy, a bwriad hefyd i wneud ad-drefniant newydd yn y dull o drethu. Dyna'r ymborth a roddwyd i ni'r myfyrwyr yn yr Ysgolion Haf i gnoi ein cil arno, ac ar natur a bywiogrwydd y drafodaeth nid ar frys y bydd inni ollwng y myfyrdodau hyn dros gof. Fel y cyfeiriais ar y dechrau, mae rhyw ddolen-gydiol rhwng y ddau bwnc; ac o bosibl, o safbwynt yr Ysgol gyntaf, y mae i ni ym Mhrydain lawer i'w ddysgu oddi wrth yr ail. Barn bersonol yw hon, wrth gwrs, felly gadawaf y mater i'r darllenwyr fyfyrio arno. POWYS GAN G. GERALLT DAVIES Fwynaf dalaith! Af i nef ei dolydd, Lle daw hedd i'r oed dan hen, hen goedydd Yn nhir y seintiau a'u Llannau llonydd O Faelor y gân i'r Foel a'r gweunydd; Ac yno, yn ei bröydd, mae trigfan Cof anniflan am Ann ei hemynydd.