Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chariad at y gwaith, a fyddai'n barod i lanw'r bwlch. Talwn ei gostau teithio, a rhywbeth dros ben. Wrth deithio'r sir, cefais gyfle i ddringo un o fryniau bychain godre Pumlumon i ymweld â dosbarth Darowen. Fël dyn dieithr yn y tywyllwch, cyfeiriais drwyn y car i fyny o Comins-coch, a chyr- haeddais yn ddiogel a chael croeso cynnes. Er nad oeddwn wedi bod yno o'r blaen, yr oedd yno ddau neu dri a gwrddaswn gynt mewn mannau eraill yr Ysgrifennydd hynaws, Robert J. Jones, a Miss Nellie Roberts. Albert Wynne Jones oedd yr athro, brodor ö Fynytho, Llyn, hen aelod o amryw ddosbarthiadau'r WEA yno. Teimlais yn gartrefol ar unwaith. Yr oedd yr ysgol wedi ei hadd- urno at y Nadolig, a thanllwyth o dân yno, a'r dosbarth yn gryno o'i gylch. Pwnc y trafod y noson honno, a llawer noson eto, mae'n siwr, oedd William Williams, Pantycelyn. Hawdd oedd dychmygu yno am Bantycelyn yn mynd ar ei amryfal deithiau, yn myfyrio a phendwmpian ar gefn ei geffyl, gan ymlwybro'n hamddenol rhwng y gwrychoedd, a hithau wedi tywyllu arno cyn iddo gyrraedd cartref. Cefn gwlad oedd y rhan helaethaf o Ogledd Cymru yr adeg honno, heb ddim golau cyhoeddus, yn union fel Darowen heddiw. Ar ganol yr oedfa megis, rhwng y ddarlith a'r drafodaeth, bu pum munud o seibiant i gael paned o de a bisgedan, a choeliwch-chi fi, yr oedd yn dderbyniol iawn. Dosbarth bywiog a pharod ei air, yn grwp cynnes yn yr ysbryd ond yn cadw eu cotiau mawr amdanynt i gynhesu'r corff. Llawer ohonynt wedi cerdded ffordd bell ar hyd llwybrau tywyll i ddod yno. Ychydig ofod sydd i sôn am y dosbarthiadau eraill a welais. Yn Chwilog, Ile'r oedd John Evans yn ymdrin yn wych ag Ehedydd Iâl, dyn yr un emyn, "Er nad yw 'nghnawd ond gwellt", yr oedd y dosbarth yn morio yn y drafodaeth, ac yn terfynu â'r cwestiwn, A ddylai emyn fod yn ddiwinyddol uniongred? Ar y llaw arall, dosbarth Nant Gwynant yn ymdrin â datblygiad y greadigaeth, ac â dyn yn arbennig, o'r epa-ddyn i'r dyn Neanderthal, ac ymlaen at Homo Sapiens. Dosbarth diddorol iawn yn Llan Ffestiniog, lle y cefais gyfarfod â llawer o hen gyfeillion, a dweud ffarwel wrth eu hathro, Bryn Lloyd Jones, sy'n symud o'r ardal i Loegr yn Swyddog Addysg Bellach yno. Nid oes le i sôn am ddosbartbiadau eraill, ond pleser oedd cael eu cwmni am noswaith.