Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY YMAE chwe diwrnod eto tan y Nadolig. Gan na fydd y Nod- iadau hyn yn ymddangos cyn y Gwanwyn, 'rwy'n hyderu y bydd aelodau'r Dosbarthiadau, a'r athrawon, ar ôl y Gwyliau wedi ail-ddechrau eu gwaith gydag adnewyddiad yn y Flwyddyn Newydd. Yr oedd colli un o'n Hathrawon-a-Threfnyddion llawn-amser ym mis Medi yn ergyd drom inni. Gadawodd Keith Jackson ni yn nech- rau'r tymor i gymryd swydd bwysig gyda'r WEA yn Sir Stafford; dymunwn iddo bob llwyddiant yn ei waith newydd. Yr ydym eisoes wedi penodi olynydd iddo, sef Rhodri Morgan, Cymro ifanc. Bu Mr Morgan, ar ôl gyrfa lwyddiannus yn Ysgol Ramadeg Whit- church, yn fyfyriwr yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen; ac wedi graddio yno bu'n gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Harvard yn America am ddwy flynedd. Y mae felly wedi llwyr ymgym- hwyso ar gyfer gwaith Athro-a-Threfnydd, ac y mae eisoes wedi setlo yn hapus yn ei waith. Bu'r pedair Ysgol Fwrw Sul i Undebwyr Llafur a gynhaliwyd yn ystod y chwech wythnos diweddar yn llwyddiannus dros ben. Cynhaliwyd dwy ohonynt yng Ngholeg y Fro, Rhosse, a chydiwyd hwynt wrth yr ysgolion bwrw Sul yr un bobl oedd yn y naill a'r llall. William Campbell-Balfour oedd y darlithydd yn y gyntaf, a'r TUC a Pholisi Cyflogau oedd ei bwnc. William Gregory oedd y darlithydd yn yr ail Ysgol, a darlithiodd ar Gynllunio Economig. Gallodd y myfyrwyr ystyried a barnu'r dadleuon ar y pynciau pwysig a glywsant o Gynhadledd y TUC ym mis Medi. "Y Sefyllfa Ddiwydiannol" a'r "Sefyllfa WÜeidyddol" oedd pynciau'r Ysgolion a gynhaliwyd yn Ninbych-y-pysgod yn Nhach- wedd. Deliodd R. C. Mathias yn ei ddull meistrolgar arferol â'r problemau diwydiannol sy'n wynebu'r Undebau Llafur heddiw, a Rhodri Morgan yn ymdrin â phwnc anodd agwedd rhai o arwein- wyr amlwg yr Undebau at wleidyddiaeth. Cynhaliwyd y bedwaredd Ysgol Fwrw Sul ym Mhorth-cawl yn y pen-wythnos olaf. Gwyr darllenwyr Lleufer yn dda am y ddau Adroddiad pwysig ar Addysg a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef rhai Newsom a Robbins. Gwahoddasom I. Dan Harry, Warden Coleg Harlech gynt, i drafod Adroddiad Newsom, a Rhodri Mor- gan i drafod Adroddiad Robbins. Cafwyd ysgol ragorol a thrafod- aethau bywiog. Daeth deugain o Undebwyr ieuainc ynghyd yno.