Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDD "Êmile", Detholiad o waith Jean Jacaues Rousseau, wedi eu cyf- ieithu gan R. M. Jones. Cyfres o Ysgrifau ar Addysg: gol., Jac L. Williams, Gwasg y Brifysgol. 12/6. Cyhoeddwyd Emile yn y Ffrangeg yn 1762, ac ar ôl dau can mlynedd dyma fersiwn Cymraeg godidog ohono. Dywed R. M. Jones y "barnai'r rhan fwyaf o haneswyr addysgol mai Emile Rousseau yw'r llyfr pwysicaf a mwyaf dylanwadol ar ôl 'Gwladwr- iaeth' Plato". "Rwdin wnaeth Refolwsion mewn amaethyddiaeth" meddai Ifor Williams, a medrem ninnau ddweud "Rousseau wnaeth Refolwsion mewn addysg, ond nid yn ei ganrif ei hun". Llosgwyd Êmile yn swyddogol a chyhoeddus ym Mharis a Genefa yn fuan wedi ei gyhoeddi. Darparwyd y cyfieithiad hwn yn uniongyrchol ar gyfer myfyrwyr sydd yn cymryd cwrs colegol mewn Addysg trwy'r Gymraeg — ond fe ddylid cael darlleniad llawer mwy cyffredinol ar lyfr mor gyf- oethog â hwn ar natur a phwrpas addysg. Êmile yw "disgybl dychmygol" Rousseau. Addysgir ef ar ei ben ei hun, ac nid ymysg cyfoedion, o'i grud i'w briodas. Pwrpas yr addysg yw gwneud dyn cyfan o Emile; dyn sy'n grefftwr a sgolor, yn parchu ei gyd-ddyn (os oedd yn werinwr a gwladwr), dyn a chanddo galon i dosturio wrth anffodusion ac i'w cynorthwyo. 'Roedd Êmile hefyd i gael ei gyflyru gan ei athro i osgoi'r agwedd a gyhoeddir gan y Beatles, "1 don't like you but I love you", ac i fod yn ddoethach mewn cariad a phriodas nag y bu Rousseau erioed ei hun. Ond yr oedd yr athro dychmygol eto i fod trwy ei fuchedd yn esiampl i'w ddisgybl ymhob peth, ac i ddysgu trwy esiampl. Cymhwysai yr athro addysg Êmile i gyfateb â dat- blygiad ei gyneddfau, un ar ôl y llall, yng nghyfnodau Babandod, Bachgendod, Blaen Llencyndod a Llencyndod, a mwy od na hyn i ni yw'r syniad fod yr athro i arafu ac nid cyflymu datblygiad rheswm, dychymyg, ac emosiwn, a hyd yn oed yr ymdeimlad moesol a chrefyddol, yn ei ddisgybl. 'Roedd Êmile i fod i darganfod gwir- ioneddau yn araf a llafurus drosto'i hun, ac nid i'w derbyn gan ei athro neu o lyfr. Hogyn un llyfr oedd Êmile i fod, ac nid y Beibl ond Robinson Crusoe oedd y llyfr hwnnw. Eithr wedi dod yn llanc yr oedd-o i ddarllen yn helaeth. Ni all pigion, "tamaid i brofi", mae'n wir, roddi syniad cywir o gyfoeth y llyfr ac o'r ymdrawiad (impact) a wneir ganddo ar y