Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

darllenydd. Gorfodir ef gan weledigaeth wreiddiol a herfeiddiol Rousseau i ddadlau, i gytuno ac i anghytuno, â'r awdur. Dyma brofiad gwerth ei gael. Y mae Rhagymadrodd Mr Jones yn ddiddorol a buddiol iawn, a'r cyfieithiad yn bleser i'w ddarllen, gan mor swynol glir a grymus yw. Y mae ei ddefnydd o eiriau megis stopio, siocio, glôb, noblaf, etc., yn fy siwtio i, beth bynnag. Byddaf yn aml yn ceisio gan aelodau dosbarthiadau ddarllen mwy; dyma gyfle iddynt brynu oriau o hyfrydwch, ac o symbyliad meddyliol, am bris isel iawn. EMRYS JENKINS Yr Hen Bersoniaid Llengar, gan Bedwyr L. Jones. Gwasg yr Eglwys yng Nghymru. 3/6. Dyma gyfrol sy'n gymwynas yn wir, ac nid yn ôl ei maint na'i phris y mae mesur ei gwerth. Er mai "ar frys" y cyfeddyf yr awdur iddo lunio "y pamffledyn hwn, rhoes fesur helaeth o wybodaeth am yr hen "bersoniaid llengar", a hynny mewn ffordd ddifyr tu mewn i ffiniau llai na hanner cant o dudalennau. Hyfryd yw cael lluniau pedwar o'r gwroniaid yng nghanol y llyfryn. Stori sydd yma am sêl a gweithgareddau bagad o bersoniaid llengar o gyfnod Gwallter Mechain hyd ddyddiau Daniel Silvan Evans olynwyr teilwng i William Salesbury a'r Esgob Morgan. Ysgogwyd hwy gan barch at yr heniaith, gofal dros draddodiadau Cymru, a'u sêl dros lenyddiaeth a barddoniaeth nes trefnu Eistedd- fodau. Onid hwy oedd arloeswyr yr Eisteddfodau Taleithiol, a pha obaith fuasai am y brifwyl ei hun heb eu dygnwch hwy? Rhydd yr awdur gipolwg ar aelwyd Ifor Ceri (y Parch. John Jenkins), gerllaw y Drenewydd, lle cyfarfyddai aelodau o'r cwmni bychan a oedd yn fawr eu sêl dros "y pethe" yn eu plith, Gwallter Mechain o Fanafon a W. J. Rees o Gascob. A rhwng y tri hyn ac eraill bu mawr y cynllunio ar gyfer ffurfio cymdeithasau ac eisteddfodau mewn llawer cwr. Er mai lleiafrif oeddynt, yr oedd ganddynt gynlluniau eang, a mawr ydoedd eu dygnwch yn wyneb difaterwch a gwrthwynebiad eu brodyr. Yr oedd gweledigaeth a chefnogaeth yr Esgob Thomas Burgess, Tyddewi, yn ysbrydiaeth aruthrol iddynt, a phwy a fesur y llonder a ddaeth iddynt o agor Coleg Llanbedr gyda lle o barch i'r heniaith?