Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mewn gofod mor brin y mae'n amhosibl dewis a dethol 0 lyfr a wëwyd mor glòs, a chyfeddyf yr awdur ei hun "y byddai gofyn cyfrol sylweddol i wneud dim byd tebyg i gyfiawnder â gweith- garwch diwyd yr hen glerigwyr hyn". Purion holi pa effaith a gafodd gweithgareddau'r brodyr diwyd hyn. Ychydig, os dim, yn eu plwyfi, ac ychydig ond odid yn yr Eglwys Esgobol, hyd yn oed ar ôl y Datgysylltiad. Cytunwn â'r awdur mai gresyn na chyfarfu y ddwy ffrwd lenyddol o du'r Eglwys ac o du'r Ymneilltuwyr ond uchel y pryd hwnnw ydoedd y gwahanfuriau. Yr un yw'r stori o hyd yn hanes yr Eglwys yng Nghymru heddiw lleiafrif dygn, gweddill gwrol yn dal i frwydro dros y pethe ynghanol llawer o ddifaterwch, ond yn barod i ymuno yn yr oes ecwmenaidd hon mewn Pabell Lên ac Ymrysonfeydd y Beirdd. Os addas ydoedd y llyfryn hwn ar gyfer Prifwyl Llandudno, y mae'n fil mwy priodol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Drenewydd yn 1965. Tybed, ai gormod ceisio erbyn hynny gyfrol bellach ar faes mor doreithiog a diddorol? Efallai y gall offeiriaid deoniaeth Cedewain gael perswâd ar yr awdur. Hei lwc, canys blasus odiaeth a fu'r arlwy hon. w. E. JONES Anturiaethwyr y Ganrif Hon, gan W. Hydwedd Boyer. Gwasg y Brython. 7/6. Yn y llyfr hwn ceir nifer o ysgrifau antur amrywiol ar gyfer plant mawr o'r un-ar-ddeg i fyny. Casglodd yr awdur ei ddef- nyddiau o lawer cylch, ac yr oedd yn syniad hapus i wneud un llyfr hwylus ohonynt. Ceir chwe phennod yn delio ag anturiaethwyr yn yr Antarctig a'r Arctig, yn yr Awyr, Hwylio'r Môr a Phlymio i'w Ddyfnder, yn y Mynyddoedd, ac yn y Ffydd. Y mae'r elfen antur- iaethus yn gyffredin i bob cylch fel ei gilydd. Rhoddir penodau cryno o hanes anturiaethwyr y Pegynau, megis Nansen, Scott, Shackleton, Penry a Fuchs. Rhyfedd oedd gadael allan Amundsen, y mwyaf disglair a llwyddiannus ohonynt oll! Y mae'r penodau ar anturiaethwyr yr Awyr a'r Môr yn newydd a ffres. Yr oedd siwrnai Alcock a Brown dros Fôr Iwerydd yn un iasoer. "Aeth pob dim yn iawn am dri chwarter awr ac yna dech- reuodd pethau fynd o chwith". Yr oedd ganddynt wedyn bron