Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pwt a'r Cawr, gan Elizabeth Watkin Jones. Gwasg y Brython. 4/6. Nid gwaith hawdd yw ysgrifennu unrhyw stori ar gyfer plant, ac ychydig yw rhif y rheini sydd yn llwyddo i afael yn nychymyg plentyn. Rhaid gwybod beth sydd yn apelio at blant. Mentrodd Elizabeth Watkin Jones i wneud hyn, a chredaf fod ganddi arddull i hudo plant i ddarllen am droeon rhyfedd y ddau walch bach, Pwt a Moi. Credaf y gellid symleiddio'r iaith ambell dro, ac arfer mwy o eiriau llafar ar adegau. Yr wyf yn siwr y caiff y plant a ddarllenodd Pwt a Moi hwyl fawr eto wrth ddarllen Pwt a'r Cawr. CEINWEN THOMAS-SAMUEL Cyngor Cymru a Mynwy: Adroddiad ar yr laith Gymraeg. Gwasg ei Mawrhydi. 8/6. Nid oes gennyf le i wneud llawer mwy na galw sylw at yr Adroddiad pwysig hwn. Rhoddir yn y Nodiadau Rhagarweiniol "safbwynt sylfaenol" y Cyngor. "Dymunant weld yr iaith Gymraeg yn byw. Nid yw holl aelodau'r Cyngor yn Gymry Cymraeg ond unant oll yn y dymuniad hwn". Y mae yma doreth o wybodaeth ar Ddefnyddio'r Gymraeg mewn Llywodraeth a Gweinyddiaeth; ym Mywyd Gwaith; mewn Hamdden; mewn Addoliad Crefyddol; mewn Addysg; y Boblogaeth Gymraeg, Cyfrifiad 1961; ac Argym- hellion. Y mae'n Adroddiad digalon iawn, ar lawer cyfrif, ond nid yn Adroddiad i dorri calon chwaith. Y mae'n werth ei brynu, a'i ddarllen drwyddo. Stori Siân, gan Elizabeth Thomas. Gwasg y March Gwyn. 5/ Cyrhaeddodd y llyfr hwn yn rhy ddiweddar imi allu ei anfon i neb i'w adolygu. Dyma un arall o'r llyfrau rhagorol i blant a gyhoeddir heddiw gan gyhoeddwyr Cymreig, llyfr yn llawn lluniau deniadol o waith Bernard Woodford, a'r storïau wedi eu hadrodd yn syml a diddorol gan Elizabeth Thomas. Hanes Siân sydd yma, a'i theganau a'i hoff anifeiliaid, Diwc y ci, a'r gath a'r oen swci, a'r eliffant a'r mwnci, a'r menajeri i gyd. I'r dim. D.T.