Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymreig, yn mynd ar gynnydd ers blynyddoedd. Pan oeddwn i'n blentyn yn Llanfechain bedwar ugain mlynedd yn ôl, yr oedd Llan- sanffraid, ddwy filltir i ffwrdd, yn lled Seisnigaidd eisoes, a Meifod hefyd-pysgodwyr o Saeson yn dilyn y pysgod i fyny afon Efymwy, mae'n debyg. Y pryd hwnnw, Cymraeg a siaradem ni blant yn ysgol Llanfechain i gyd; ond ni fedrai ein hathrawon air o Gymraeg. Heddiw, y mae yno newid mawr er gwell ac er gwaeth. Y mae yn awr ysgol newydd hardd yn y pentref, ac fe ddysgir Cymraeg ynddi, ond mae'n amheus gennyf a oes lawer o'r plant yn siarad Cymraeg â'i gilydd. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe dreuliodd fy mrawd a minnau wythnos o wyliau yn Llanfechain, yn crwydro'r hen lwybrau ac yn deffro hen atgofion. Yn y tŷ lle cefais fy ngeni, yr oedd Saesnes yn byw; ac yn Tŷ Top, ar ben y llechwedd tu cefn i'n tŷ ni, yr oedd teulu o Saeson o Birmingham wedi troi'r tyddyn yn lle i fagu ieir, a golwg flêr ar bob man. Ac mewn lleoedd eraill yn y plwy, yr un oedd y stori-a'r un ydyw'r stori yn Sir Gaernarfon. Yn Llyn ac Eifionydd, ac yn ardaloedd y chwareli, bydd Saeson yn prynu tai ac yn gwneud eu cartrefi ynghanol cymdeithas Gymraeg, heb ymddiddori dim yn iaith a thraddodiadau eu cymdogion, dim ond plannu darn bach o Loegr yn eu canol. Lle bo'r dylanwadau Seisnig yn dyfod i mewn yn eu pwysau- ynghwrs natur megis-y mae gobaith am inni allu eu gwrthweithio. Gallwn ddysgu Cymraeg i'r plant yn yr ysgolion; gallwn fagu amynedd, a dangos ewyllys da at ein cymdogion newydd, ac yn raddol ennill eu diddordeb mewn pethau Cymraeg, a sefydlu Ysgol- ion Nos lle y gallant ddysgu Cymraeg, a chael darlithiau ar Hanes Cymru, a phethau cyffelyb. Llawer a ddichon ewyllys da a chym- dogaeth dda. Ond pan fo rhyw allu cryf o'r tu allan, fel y Wladwriaeth, yn plannu cymdeithas gyfan, gref, o Saeson mewn ardaloedd lle y mae'r Gymraeg eisoes yn colli tir, a'r gymdeithas honno yn dyfod â'i har- ferion ei hun gyda hi yn eu holl nerth, fel y glowyr o Ogledd Lloegr yng nghymoedd y De yma, pa obaith sydd gennym am allu eu gwrth- weithio, a chadw'r iaith Gymraeg a Chymreictod yn fyw? Wedi sgrifennu'r Nodiadau hyn, clywais ar y radio fod Mr Goronwy Roberts yn dweud mai nid ar gyfer Saeson o Loegr y bwriedir codi tref newydd yn Sir Drefaldwyn, ond ar gyfer Cymry Newydd da iawn ydyw hwn, ond ni wyddom eto o b'le y disgwylir i'r Cymry hyn ddyfod, na pha beth fydd yno ar eu cyfer pan ddônt.