Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SIARTER FAWR, 1215-1965 GAN GWILYM PRYS DAVIES CYFNOD o sefydlu sylfeini'r wladwriaeth ffiwdal ydoedd y ddeu- ddegfed ganrif a'r drydedd-ar-ddeg yn hanes gwledydd gor- llewin Ewrop. Dyna dueddiad amlycaf y cyfnod. O'r amryw ateb- ion a geisiwyd yn yr oes honno i broblem anarchiaeth yr un mwyaf llwyddiannus oedd canoli'r gallu politicaidd yn nwylo'r brenin. Brwydrai'r Capetiaid yn Ffrainc, y Plantageniaid yn Lloegr a'r ddau Lywelyn yng Nghymru-heb enwi ond rhai o benseiri'r cyfnod- dros yr unrhyw amcanion a chan wynebu ar yr unrhyw broblemau. Yn y gymdeithas ffiwdal 'roedd sofraniaeth-os teg defnyddio syniad modern-yn wasgaredig ymhlith y lliaws arglwyddiaethau a oedd, 0 leiaf mewn theori, wedi eu huno drwy gyfrwng teyrngarwch cyffredin i'r Goron. Ond, yn ymarferol, penderfynid terfynau effeithiol y Goron gan faint y diriogaeth y llwyddasai'r llys brenhinol i sefydlu ei reolaeth uniongyrchol arno. Gan hynny, un o brif amcan- ion y penseiri gwladwriaethol oedd sefydlu demesne frenhinol gadarn fel y byddai ganddi'r nerth i ddarostwng yr arglwyddi llai i hawliau penarglwyddiaeth y Goron. Yn Lloegr cerddasai'r tueddiadau hyn ymhell erbyn diwedd y 12fed ganrif. Ond nid oedd pawb a phopeth yn ffitio i mewn i'r patrwm. Erbyn 1214 'roedd deunydd helynt yn pentyrru. Tyfasai adwaith y barwniaid yn gryf. Iddynt hwy a'u cefnogwyr-ymhlith yr Eglwyswyr, y masnachwyr, ac yn llys AberfIraw-roedd y Goron wedi ymwallgofi ar gasglu awdurdod i'w dwylo. Pan ddychwelodd y brenin John i Loegr yn hydref 1214, a'i ymgyrch ddrud yn erbyn Ffrainc yn fethiant, gwelwyd fod yr amser yn aeddfed i'w herio. Cipiodd y barwniaid eu cyfle a galwasant arno i symud eu cwynion. O'r diwedd, ym Mehefin 1215, cyfarfu John â chynrychiolwyr y barwniaid ar y gwastatir yn Runnymede ar lannau Tafwys. Wedi wyth niwrnod o ddadlau, gwrth-ddadlau a bargeinio caled, cytun- odd John, yn erbyn ei ewyllys, i gydymffurfio â cheisiadau'r barwn- iaid. Yn drist rhoes ei sêl ar y Siarter Fawr. Dyma gofnodi yn ddi- amau un o oriau mawr Lloegr. Deil ffrâm y Siarter gryn drigain o gymalau i'w defnyddio at y pwrpas ymarferol o ateb cwynion a rhoi rheolaeth ar y brenin mewn meysydd arbennig. Cydnabyddir rhyddid yr Eglwys, breintiau dinas Llundain, hawliau'r barwniaid i dderbyn gwasanaethau ffiwdal, hawl yr arglwyddi llai i gynnal eu llysoedd, rheolaeth y gyfraith Gymreig