Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANES RHYW GYMRO GAN GERALD MORGAN Hanes Rhyw Gymro, gan John Gwilym Jones. Cymdeithas y Cymric a Chymdeithas y Ddrama Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Bangor. 10/6. NI roddodd John Gwilym Jones erioed dasg mor anodd iddo'i hun ag a wnaeth wrth ymgymryd â'r ddrama hon. Roedd wedi tyfu trwy ei ddramâu-Diofal yw Dim, Ue Mynno'r Gwynt, Y Gŵr llonydd, Y Tad a'r Mab a Pry Ffenast (nid wyf yn gyfarwydd â Hynt Peredur) — a daeth i'r man lle mae llawer o artistiaid yn eistedd yn ôl ac naill ai'n llaesu dwylo neu'n ail-adrodd eu campau gorau. Gallasai Mr Jones fod wedi bodloni ar y math o ddramâu teuluol, tynn, a geir yn Y Tad a'r Mab a Pry Ffenast. Roedd wedi dangos ei hun yn bencampwr ar ddeialog bourgeois Cymraeg, ac wrth gadw at ychydig o gymeriadau agos at ei gilydd, roedd yn medru manteisio ar y teimladau ffrwydrol sy'n corddi mewn teulu — hen ddefnydd mewn dramâu fel. y dengys Electra, King Lear, a'r Tad gan Strindberg. Eto, yn lle hyn oll, wele'r dramodydd yn mentro o'r byd trydanol, Ibsenaidd hwn i fyd ehangach hanes-byd lle mae'r gwobrau yn uchel, ond y peryglon yn lluosog. Gyda'r canfas mawr a gynigir i'r dramodydd wrth ymgymryd â dramâu hanesyddol, daw perygl niwl- ogrwydd, perygl fod y tyndra yn mynd yn llac, y Uu cymeriadau'n mynd yn afreolus, a'r cwbl yn mynd yn ßêr-ac y mae blerwch yn fwy o faen tramgwydd i'r dramodydd nag i'r un llenor arall. Mae'n wir fod ganddo enghreifftiau i'w dilyn. Cysylltir y math yma o ddrama ag enw Brecht, ac yn ddiweddarach â Luther John Osborne. Y mae'n anodd o hyd amgyffred â gwir bwysigrwydd Brecht. Yn anaml iawn y perfformir ei ddramâu ym Mhrydain; heb- law'r Opera Tair Ceiniog, go brin fod un o'i ddramâu wedi cael ei pherfformio yn Llundain yn ystod ei fywyd-a bu'r Opera yn feth- iant y tro cyntaf. Adlewyrchiad yw hwn ar y safonau anhygoel o isel a berchid ym myd theatr Llundain rhwng 1920 a 1950, ac sy'n dal i gael parch o hyd tu allan i'r theatrau â chymhorthdal ganddynt. Yn anaml iawn y ceir perfformiad o waith Brecht hyd yn oed yn y lleoedd goleuedig hynny-y Royal Court, y Theatr Genedlaethol, yr Aldwych. Y mae deallusion Llundain wedi gwirioni'n hytrach ar "Theatr Afreswm "-gwaith Ionesco, Becfcett, Pinter ac N. F. Simpson: Osborne yn unig sy'n dewis dulliau Brecht.