Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y mae Morgan yn dechrau sylweddoli yn llawn b'le y mae'n sefyll, ac y mae'n troi i felltithio'r ddau ohonynt a'u syniadau a'u dad- leuon: Eich dau'n ddim ond haearn wedi oeri'n opiniynau caled. Mae'r dyn da, doeth yn byw oes o ansicrwydd, yn feunyddiol yn chwilio ac ymbalfalu Ond er iddo ddod mor agos i'r gwirionedd, y mae eto'n rhyfygu fod ei enw yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen daw John ap John i ddymchwel ei falchder, i ddannod iddo ei fod heb ffydd, yn derbyn degwm, ac o flaen ein llygaid fe dry Morgan o fod yn grefyddwr i fod yn ddyn a achubir o byllau anobaith gan gariad ei deulu, a dengys ei fod wedi dysgu gostyngeiddrwydd, ac wedi tynnu oddi amdano bob gwamalrwydd ac anwybodaeth. Trwy'r ddrama i gyd fe welwn enghreifftiau o gydbwysedd a dis- gyblaeth y dramodydd ar ei orau. Ceir amrywiad o gymeriadau yn grŵpio o gwmpas Morgan; y grwp teuluol yn cynrychioli'r gwerthoedd traddodiadol-Huw Cynfal, mam a gwraig Morgan, Siencyn Dafydd-ac o'r ochr arall, y mae Vavasor Powell a'i lu o syniadau a'i egni a'i frwdfrydedd. Yn y canol gwelir Cradock a John ap John, gwyr y ffordd ganol, sy'n rhoi mwy o bwys ar werthoedd y galon nag y mae Powell a'r crefyddwyr. Dallineb Morgan wrth ddilyn Powell yn hytrach na Cradock sy'n ei arwain ar gyfeiliorn, a defnyddir y cymeriadau cartrefol i osod safonau y gall Morgan ddychwelyd iddynt, yn dristach a doethach dyn. Rhaid ychwanegu fy mod yn cael rhai o'r areithiau hanesyddol braidd yn hir-yn sicr, ni ddylid eu torri allan, ond y mae lle efallai i'w cwtogi. O bryd i'w gilydd daw llais yr awdur i'r amlwg; ymffrostia Morgan Llwyd ei fod wedi cyhoeddi'r llyfr Cymraeg gwreiddiol cyntaf i'w argraffu, ond teimlaf mai'r awdur sydd yma yn ceisio atgoffa ei gynulleidfa o'r gwirionedd hwn. Ond brychau bach yw'r rhain mewn drama o bwys, un o'r dyrnaid dramâu hanesyddol Cymraeg o werth, ac un sydd o safbwynt techneg yn sefyll ar ei phen ei hun. Yn ddiweddar, fe ddatblygwyd set radio ddim mwy na philsen, er mwyn i ddyn fedru ei llyncu ac iddi anfon allan negeseuon ar gyflwr mewnol ei gorff! Ond, hyd yn hyn, ni wyddys sut i'w dehongli! — Eirwen Gwynn, yn Tr Lleuad a Thu Hwnt.