Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWELD O'R NEWYDD GAN J. ELLIS WILLIAMS MAE Robert Schauffer, yr athronydd enwog, yn sôn yn un o'i lyfrau am siopwr ifanc a oedd yn byw yn ninas Zurich, yn y Swistir (Switzerland). Peintio lluniau oedd hobi'r gwr ifanc hwn, a gofid mwyaf 'i fywyd oedd 'i fod o'n gorfod byw mewn rhan o'r dref lle roedd 'na gymaint o hagrwch a chyn lleied o brydferthwch. Ond wrth fynd i'w wely un noson, daeth syniad newydd iddo-fo. Os ydw i'n wir artist meddai wrtho'i hun, mi ddylwn i allu gweld prydferthwch Ue nad oes neb arall yn 'i weld-o. Bore 'fory, wrth fynd i'r siop, mi geisiaf weld deg o bethau digon prydferth i'w peintio Nid deg a welodd, medda' Schauffer, ond degau. Geneth fach yn helpu hen wraig oddi ar y bws, crwtyn direidus yn dynwared osgo plismon hunan-bwysig, pelydryn o haul yn disgyn ar wallt gwyn hen wraig yn gwerthu matsus ar y palmant-roedd degau o ddarlun- iau ar y ffordd o'i lety i'r siop. Eisteddais i lawr i ryfeddu medda'r Salmydd erstalwm. Y gallu i ryfeddu sy'n gwneud bywyd yn werth i'w fyw. Y gallu hwn, medda' Socrates, ydi sylfaen gwareiddiad dyn: heb y gallu i ryfeddu, mi fasa dyn-fel anifeiliaid y maes-wedi bodloni ar yfed, a bwyta, a hiliogi, a dim arall. Dros ddwy fil o flynyddoedd ar ôl marw Socrates, mi bwysleisiwyd yr un gwirionedd gan wyddonydd mwyaf ein dyddiau ni. Y profiad prydferthaf y gall dyn ei gael meddai Einstein, yw'r ymdeimlad o ddirgelwch. Y gallu i ryfeddu ydyw ffynhonnell pob gwyddon- iaeth Schauffer, Y Salmydd, Socrates, Einstein-dewch at yr athro mwyaf ohonynt oll, Yr Arglwydd Iesu. Beth mae O yn 'i ddeud? Oddieithr eich troi chwi a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd Fel plant bychain: oedd, roedd y gallu i ryfeddu gennym ninnau pan oeddym yn blant. Rydym yn colli'r gallu am nad ydym yn ei feithrin. I'r hwn sydd ganddo y rhoddir, ac i'r hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo Os peidiwn â defnyddio unrhyw gynneddf, fe'i cymerir oddi arnom. Rhwymwch eich braich wrth eich ochr, ac mewn amser mi â'n ddiffrwyth. Mae'n un peth yn wir am y gallu i ryfeddu. Mi gefais brofiad personol o hynny beth amser yn ôl. Torrodd