Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwaed tu mewn i'm pen, tu ôl i'm llygaid, ac mi ofnais am rai dyddiau y collwn fy ngolwg. Ac yn sydyn, mi sylweddolais beth a gollwn-y croeso yn wyneb cyfaill, y chwerthin yn llygaid plentyn, lliw fflamau'r tân ar noson o rew yn Ionawr, dail y gastanwydden yn yr hydref, gwynder disglair pêl golff newydd ar lain 0 laswellt, fy llyfrau-teimlwn fy hun yn colli'r cyfan, yr holl hyfrydwch a rydd golwg i ddyn. Ac wrth feddwl am golli'r mwynderau hyn, mi gefais fy hun yn rhyfeddu o'r newydd at yr hyn a welwn o'm cwmpas. Gallasai'r un peth ddigwydd gyda'r holl synhwyrau. Dychmygwch am ennyd eich bod yn fyddar, ac na chlywch-chi byth eto gân yr adar ar fore o wanwyn, na siffrwd y dail mewn awel o wynt, na murmur nant yn y mynydd, na chwerthin plant bach wrth chwarae, na dim swn na sain arall a rydd fwynder i'ch clust. Cymerwch arnoch eich bod yn clywed yr holl bethau hyn am y tro olaf. Fe ddaw'r gallu i ryfeddu yn ôl i chwithau wedyn. Wedi mynd i rych yr ydym sydd yn ein cadw rhag gweld popeth o'r newydd. Rydym yn gweld heb edrych, yn clywed heb wrando, wedi cynefino gormod â'r bywyd o'n cwmpas, a'r cynefindra wedi tagu'r gallu i ryfeddu. Arnom ni ein hunain y mae'r bai. Bu farw'r plentyn ynom. Oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain Ia, digon gwir, yntê? (Trwy garedigrwydd Mr Sam Jones a'r BBC) Hyd y gwn i, y mae'r stori hon yn wir bob gair. Adroddir hi am un o weinidogion Sir Gaernarfon flynyddoedd yn ôl. Cymro oedd-o, ond tybiaf fod tipyn o waed Gwyddel ynddo hefyd. Dywedir ei fod yn pregethu yn un o gapeli gwledig y sir un pryn- hawn trymaidd iawn, iawn, a bod cwsg wedi mynd yn fistar ar bob un o'r blaenoriaid druain yn y sêt fawr. Toc, dyma blentyn bach yn aflonyddu ynghanol y gynulleidfa, a chododd y fam i fynd ag ef allan. Na ebe'r pregethwr, peidiwch â mynd â'r plentyn bach allan, wraig dda. Dowch â fo i lawr yma i'r sêt fawr. Mi gysgith yn iawn fan hyn