Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIPYN YN OL BELLACH GAN D. TECWYN LLOYD UN o'r pethau annhebygol hynny a allai fforddio llawer iawn o bleser i mi erbyn hyn fyddai cael ail olwg ar y cofrestrau a gedwid gennyf yn nosbarthiadau Uwchaled gynt rhwng 1940 a 1946. Ofer, mae'n debyg, yw disgwyl hynny; mae'r Weinyddiaeth Addysg wedi eu polpio'n ffurflenni newydd yng ngweithdy rhyw garchar yn rhywle ers blynyddoedd lawer bellach, mae'n siwr. Yn wir, mewn dosbarthiadau diweddarach, efallai imi'n ddiarwybod farcio cof- restrau wedi eu gwneud o'r un hen ddeunydd, ac imi dorri enwau pobl o Lithfaen a Bwlch Gwyn a Chapel Isac ar ffeibrau hen ddalen- nau a fu unwaith yn crwydro gyda mi i Ysbyty Ifan, a Nebo, Gelli- oedd a Melin-y-wig: Hwn yw y papur, ond nid hon yw'r rhestr A fu'n y Cerrig gynt Cymaint yw darbodaeth bapurol y Gweinyddiaethau (os yw Swydd- feydd y Dreth Incwm yn enghraifft deg) fel nad anodd fyddai i bob athro dosbarth nos gael ffit rwydd o Ymson Ynghylch Amser wrth farcio'r rhestr ar ddechrau dosbarth a gweld ysbrydion hen enwau ugain mlynedd yn ôl yn ymrithio o dan y rhai newydd o'r bwff diddychymyg. A gyda llaw, wrth feddwl, Pam fod yn rhaid i bapurau a ff urflenni'r Llywodraeth fod yn bethau mor felancolaidd a phastîaidd eu lliw? Onid oes yma le i ddiwygiad? Iechyd i lygaid llawer tiwtor fyddai cael set o restrau a ffurflenni dosbarth mewn fermiliwn, ysgarlad, melyn a phiws llachar. Byddai gweld papuryn felly yn gynhesrwydd i gychwyn dosbarth ar noson rynllyd yn Ionawr yn y festri ddi-dân neu'r neuadd leol sguboraidd. Byddai hyd yn oed y Llywodraeth ei hun yn megino rhywfaint o edmygedd a serch tuag ati ymhlith ei deil- iaid oherwydd lliwgarwch bywiog fel hyn. Peth bach, mi wn, ond gallai gerdded ymhell. Ac unwaith wedi dechrau, gellid datblygu'r syniad. Cynnig grant ychwanegol i bob dosbarth, er enghraifft, a allai iawn-ddyfalu lliwiau ffurflenni'r tymor nesaf; graddio'r lliwiau yn ôl ffyddlondeb aelodau: rhestr ysgarlad i ddosbarthiadau a gadwodd dros 85% o'r cyfarfodydd, pinc i rai dros 70%, melyn i ddosbarth canolig, a chadw bwff i ddosbarth bylchog a methiantus. Mae'r wythïen yn un gyfoethog. Heb sôn, wrth gwrs, am y diwygiad anhygoel a chwbl fesianaidd hwnnw o gael y rhestrau hyn, ymhen