Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lemau'r dydd yn bethau gwirioneddol fyw, ac er nad yw anadliadau oer y cythlwng ddim pellach na rownd y gornel yn y Byd Bras (fel y gwelwn pan fo streic neu golli gwaith yn chwalu credyd y Nefar- Nefar i'r pedwar gwynt), prif ymateb y byd hwnnw i'w ofnau yw breuddwydion am fwyta, yfed a herwa a'r racet anferth a elwir yn Rhyw. Ar gyfartaledd, medd rhywun, mae pob copa walltog yn y deyrnas yma yn byw mewn dyled gyson o drigain punt. Yr ydym yn byw ar gyfrwymo addewidion y dyfodol ac er nad oes dirwasgiad materol ar hyn o bryd, mae dirwasgiad arall mwy llethol yn pwyso ar ein hysbrydoedd, sef y panig o fod mewn dyled anesgor a'r nihil- iaeth a bair hynny. Yn y dyddiau cynnar yna, yr unig ddosbarth y methais yn deg â chael dim mynd arno oedd un Bryneglwys. Bûm yno am un gaeaf a 'fûm i ddim yno byth wedyn. Oni bai am garedigrwydd y gweinidog a'i wraig buaswn wedi 'danto' ar y canol. Yn un peth, gaeaf 1939-40 oedd hi; eira a rhew am wythnosau a gorfod gohirio byth a beunydd. Peth arall, 'doedd neb fel petai ganddo un syniad am ddarllen na wats na chloc. Saith oedd yr awr i ddechrau, ond yn aml iawn cawn dri chwarter awr da o fyfyrdod neu o ddiflastod Iogîaidd yn y festri cyn y doi neb heibio. Dim ond deuddeng noson oedd y cwrs, ond er inni gychwyn arni yn nechrau Hydref roedd hi'n ganol Ebrill arnom yn cael rhyw lun o ben arno. Y pryd hynny-falle fod pethau'n wahanol erbyn hyn,-ond chwarter canrif yn ôl roedd Bryneglwys yn enghraifft dda o'r modd y bydd ardal wledig yn colli ei hangorion: ceir mwy o'r un peth heddiw, gwaetha' modd. Y prif atyniadau oedd dawnsfeydd, chwarae chwist (o ie, er mwyn rhyw achos da, wrth gwrs) a'r sefydliad Seisnig hwnnw a elwir yn Dybliw Ai. Yr hyn a ddigwydd mewn sefyllfa fel yma bob tro yw fod yr achos da yn ymneilltuo i gysgu mewn cornel ar obennydd ei elw sylweddol a bod holl egni'r cylch yn troi fwyfwy o gwmpas y moddion sy'n creu yr elw hwnnw. Gwelais wedyn yr un patrwm mewn ardaloedd eraill ac yn ddi-feth, sylwais fod bywyd ardal felly yn masweiddio ac yn crebachu i fyd pethau cwbl faterol a digyfeiriad. Ac yn cydfynd â hynny ceir seisnigo- nid gyda Saesneg Keats neu T. S. Eliot, ond y clindarddach arwyn- ebol gwag sydd bob amser yn nodweddu'r Cymro a gollodd ei wreiddiau. Fis Medi, 1939, dyma hi'n rhyfel, ac yn groes i bob disgwyliad daeth cyfnod mwy llewyrchus ar ddosbarthiadau allanol o bob math. Daeth y cyfan yn ôl imi yn fyw iawn wrth ddarllen Rheng o Dri gan Mr Llywelyn Williams, Cyffylliog, ba ddydd, a chyda'r holl siarad