Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

neu'r gwerthu ar ran ei gwsmer. Mae i'r Gyfnewidfa, wrth gwrs, ei rheolau, ac hefyd ei hen arferion-ac mae'n werth sylwi fod symiau enfawr yn cyfnewid dwylo yno bob dydd heb na phapur na derbynneb. Gair dyn yw'r unig rwymyn ar lawr y farchnad hon. Oherwydd fod Marchnad Stociau Llundain, a'r rhai mewn trefi eraill ym Mhrydain a thrwy'r byd, mewn cysylltiad â'i gilydd ar y teliffon, mae'r hyn a ddigwydd mewn un farchnad yn wybyddus mewn marchnadoedd eraill, ac yn dylanwadu ar yr hyn a ddigwydd ynddynt hwy. Mae symudiad prisiau mewn un farchnad yn dylan- wadu ar brisiau mewn marchnad arall-yn wir, gellir cyfrif holl farchnadoedd stociau y byd yn un farchnad fawr. Yn y marchnad- oedd stociau, fel mewn marchnadoedd eraill, bydd agwedd pobl wrth brynu a gwerthu yn gwahaniaethu. Bydd rhai yn prynu stociau gan fwriadu eu cadw am amser gweddol hir, ac aros am y llog a'r dosraniadau arnynt. Ond fe fydd yno hefyd sbecìwlyddion sy'n prynu neu'n gwerthu gan obeithio'n fuan wneud yn groes i hynny, a gwerthu neu brynu eilwaith pan fydd prisiau wedi symud o'u plaid. Mentro a wnânt, gan obeithio ennill oherwydd y symudiadau byr- dymor mewn prisiau. Yn y Gyfnewidfa Stociau yn Llundain, gelwir y rhai sy'n disgwyl i brisiau ostwng yn eirth; ac am y rhai sy'n credu mai codi a wnaiff prisiau, yr enw a roddir arnynt hwy yw teirw. Ymgais yr eirth fydd gwerthu cyn i brisiau, yn ôl eu disgwyliad hwy, ostwng-a gwerthu gan fwriadu prynu'n ôl wedi i'r gostyngiad ddigwydd. Fe gais y teirw, ar y llaw arall, brynu stociau cyn i brisiau godi fel y disgwyl- iant, a chan obeithio gwerthu pan fydd y prisiau wedi codi. Ac i awgrymu ymhellach gymhlethdod yr holl fusnes yn y farchnad, gellir ychwanegu, er enghraifft, y bydd yr eirth yn gwerthu stociau sydd heb fod yn eu meddiant, ac y bydd y teirw yn prynu stociau na ddymunant eu cael. Os bydd y ddwy adran o'r sbeciwlydd- ion yn weddol gyfartal, bydd gwerthiant yr eirth yn cyfateb i bryn- iant y teirw, ac fe erys prisiau yn weddol sefydlog. Yn wir, gall y sbeciwlyddion-heb fwriadu hynny-gyflawni gwasanaeth cym- deithasol trwy leihau'r sigliadau mewn prisiau. Ond fe all y sbeciwl- yddion oll gymryd yr un agwedd gyffredinol yn y Farchnad-gallant hwy a phobl eraill yn y Gyfnewidfa weld golwg dywyll neu olau ar bethau-nes bod pawb bron yn ceisio prynu, neu bawb yn ceisio gwerthu. Ac fe all y sbeciwlyddion hefyd weithredu'n wrth-gym- deithasol trwy ddylanwadu ar brisiau-trwy ledaenu storïau, dywsder — er mwyn gwthio'r prisiau i fyny neu i lawr, er eu mantais eu hunain. Ac fe wyddys y gall gormod o sbeciwleiddio i'r un cyf-