Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eiriad arwain yn y diwedd i gwymp dirfawr mewn prisiau, fel yr un a fu ym Marchnad Stociau Efrog Newydd yn 1929. Fe chwaraeodd y cwymp hwnnw ran-rhan bwysig, efallai, ac mae dadl ynglŷn â hynny-yn ymledaeniad y dirwasgiad byd-eang ac ofnadwy o'r flwyddyn 1929 ymlaen. Yn olaf, gellir sylwi fod gan stoc ddau bris-ac nid sôn yr wyf yn awr am y prisiau a enwir gan y jobwyr yn y Gyfnewidfa Stociau. Cyfeirio yr wyf yn hytrach at y swm a enwir ar bapur y stoc ar un llaw, ac at bris y stoc yn y farchnad ar y llaw arall. Fel rheol, bydd gwahaniaeth rhwng y ddau bris yma-rhwng pris y farchnad a'r pris gosodedig, yr hwn a elwir yn par. Er mwyn penderfynu beth yw graddfa wirioneddol yr enillion ar stoc neu siâr, mae'n rhaid cysylltu swm y llog neu'r dosraniad arno â'r pris a dalwyd amdano yn y farchnad, yn hytrach na'r pris gosod- edig. Nid y raddfa log, neu'r raddfa ddosraniad, a gyhoeddir yw'r un wirioneddol. Fe gyhoeddir graddfa llogau a dosraniadau gan ffyrmiau fel canran o'r pris gosodedig (par), ond fel rheol mae'r pris marchnad yn wahanol i'r pris gosodedig. Efallai mai am £ 200, dyweder, y prynwyd stoc £ 100 sy'n talu £ 4 (h.y., 4 y cant o'r pris gosodedig, sef y £ 100). Yr ennill o berchenogi stoc dros gyfnod arbennig yw'r gwahaniaeth rhwng y pris a dalwyd amdano ar ddechrau'r cyfnod a'r hyn a geir amdano ar ddiwedd y cyfnod, ynghyda'r llog neu'r dosraniad arno dros y cyfnod. (I'w barhau) Mewn Cynhadledd o athrawon Ysgol Sul, adroddodd y darlith- ydd y stori hon, i argraffu ar feddyliau ei wrandawyr mor bwysig oedd i athro geisio mynd i mewn i feddwl y plentyn Dywedodd fod mul wedi mynd ar grwydr unwaith ar ddarn o gomin, a bod yr ardalwyr i gyd wedi chwilio amdano yn ofer. Meddyliodd rhywun o'r diwedd am ofyn i Huwcyn, y bachgen gwirion, eu helpu. Aeth yntau i chwilio, a chyn pen dim yr oedd yn ei ôl, a'r mul bach yn ei ganlyn. Edrychodd yr ardalwyr arno mewn syndod, a dyma ofyn iddo sut y cafodd hyd i'r mul mor handi. Wel meddai Huwcyn, mi es-i i'r lle roedden-nhw'n deud i bod-nhw wedi gweld y mul bach ddwytha, ag wedi imi edrych o 'nghwmpas, dyma fi'n gofyn i mi f'hun- Taswn i'n ful', meddai fi, i i ble baswn-i'n mynd nesa? Ag mi es-i yno, ag yno roedd-o