Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARGYFWNG GAN R. GWYNEDD JONES Yr Argyfwng Gwacter Ystyr, gan J. R. Jones. Llyfrau'r Dryw. 2/6. "y MAE cynnwys y llyfryn hwn mewn tair rhan. Traddodwyd rhannau I a II fel anerchiadau-y naill (ar wahân i rai ychwanegiadau) yn Rali Dosbarthiadau Allanol Bangor, Ebrill, 1963; a'r llall ar sianel deledu BBC Cymru, Chwefror, 1964, yn y gyfres Rhyngoch Chi a Minne. Dyna eiriau'r cyflwynair, a gellír ychwanegu ddarfod i gynnwys y llyfryn fod yn sail trafodaeth radio rhwng yr Athro J. R. Jones a'r Athro Hywel D. Lewis, a hynny drachefn yn sbardun ysgrifennu pellach yn y Wasg gan y ddau. Gadawodd Dietrich Bonhoeffer a Paul Tillich eu hôl yn drwm ar feddwl J. R. Jones, ac amlwg yw iddynt fod o gymorth mawr iddo wneud trefn ar ei brofiadau ysbrydol ei hun, a'i sbarduno i helpu eraill i wneud yr un peth, yn enwedig y rhai sydd wedi colli eu ffydd yn yr oes hon neu mewn perygl ei golli. Teimlo'i ffordd y mae'r Athro, ac yn y proses yn bwrw amheuaeth ar lawer o'r pethau a gymerir yn ganiataol yn y cylchoedd eglwysig. Eithr nid teg o bell ffordd ydyw ei gyhuddo nad yw yn ddim amgen na drylliwr delwau, oblegid yn y llyfryn dan sylw, ac ymhob ymgais pellach o'i eiddo i egluro ac amddiffyn ei safbwynt, canfyddwn unplygrwydd diwyro. Argyfwng gwacter ystyr ydyw nodwedd amlycaf a phwysicaf ein dyddiau. I bob pwrpas, i'r mwyafrif o bobl, bu farw'r Duw traddod- iadol ac aeth byw a bod yn gwbl amddifad o ystyr. Am hynny, y mae'n rhaid atgyfodi ysbryd y brotest Brotestannaidd" mewn diwinyddìaeth, ac yn gymdeithasol. Mewn diwinyddiaeth, fel y gallo ddysgu ildio arwyddluniau a gollodd eu grym, eithr heb ildio'r ymglywed â Duw fel ystyr a dyfnder Bod yn gymdeithasol, fel yr enynner drachefn y tân radicalaidd. Heb hyn, hawdd y twyllir pobl a buan yr ânt yn ebyrth ar allorau pwysigion a mandariniaid cym- deithas Gyda'r gwacter ystyr daw ymdeimlad o ansicrwydd ac arwahanrwydd, Mae'n hwyr bryd inni weld yr apelia ffasgaeth at yr union gyflwr hwn. Canys y mae'n cynnig, medd Tillich, security, certainty, community and a new meaning in life' Eithr eu cynnig y mae in a demonic and self-destructive form Rhaid gwylio a gwrthsefyll pob gallu a faidd hawlio iddo'i hunan ryw ddwyfoldeb trahaus. Tu ôl i argyfwng crefydd a'r gwacter ystyr y mae'r cynnydd gwyddonol sy'n peri fod y dyn cyffredin yn tybio y symudir pob dirgelwch cyn bo hir, A rywfodd y mae'r syniad hwn, y gellir