Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AR OLWYN YN IWERDDON GAN DAVID THOMAS YN ystod mis Awst 1939, ar drothwy'r Ail Ryfel Mawr, aeth Ffion fy merch (19 oed), ac Arial fy mab (14 oed), a minnau, ar daith feicio dros ran helaeth o Ddeheudir Iwerddon-teithio ychydig dros chwe chan milltir mewn 19 diwmod. Cysgem mewn pabell, a chan bob un ohonom sach o wlanen dew i orwedd ynddi, a thaenem ein cotiau dros ein hysgwyddau os byddai'n oer y nos. Yr oedd llen rwber odanom i'n cadw rhag lleithder y ddaear. Cychwynasom o Dunleary, porthladd Dulyn, a theithio drwy'r sir- oedd dwyreiniol nes cyrraedd Arklow; wedyn croesi i Waterford a Chorc, ac ymlaen am y gorllewin-Glengarriff, Killamey a Bally- bunnion-ac yna croesi ar draws canol Iwerddon o Limerick i Ddulyn. Cadwais nodiadau byrion o'r daith mewn llyfryn wrth fynd yn fy mlaen, ac wedi cyrraedd adre, ysgrifennais yr hanes yn llawn. Dyma ddyfyniadau ohono- SGUTHANOD Yr oeddem wedi ein cyfarwyddo ymha Ie i chwilio am lety y nos- waith gyntaf ar ôl gadael Corc, ac wedi cyrraedd yno, cawsom hen felin a thy mawr, a thiroedd a gerddi eang o'u cwmpas. Dangoswyd inni le i babellu, mewn cae lIe'r oedd yr adladd yn dechrau tyfu ar ôl y cynhaeaf gwair, a chysgodai coed uchel ni uwchben. Rhedai afonig wrth droed y llechwedd odanom, a chawsom ffynnon o ddwr glân ryw hanner y ffordd i lawr. Swn sguthanod a glywem dros bob man yn y bore, ac yn wir, buom yn gwrando arnynt gryn lawer yn ystod y nos. Daethom yn gynefin iawn â'u clywed y dyddiau hyn, nes ein bod yn medru cân fwyn, gwynfanus, yr ysguthan bron yn berffaith. A adwaenoch-chi hi? Dyma hi, cyn agosed ag y gall sillafiad Cymraeg ei dangos- Gŵ-ŵ, Gwgŵ-ŵ, Gwgw-w, Gwgŵ-ŵ, Gŵ-ŵ, Gwgŵ-ŵ, Gwgw-w, Gwgŵ-ŵ, Gŵ-ŵ, Gwgw-w, Gwgŵ-ŵ, Gwgŵ-w, Gw.