Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyda'i gilydd yn vr hwyr. Y mae ganddynt fand pibau erbyn hyn, ac efallai y caf eu clywed yn canu ar Radio Eiriann cyn bo hii. Bydd gwrando ar fand pibau yn un o f'hoff bleserau. Soniais innau wrth y gwr am Fand Nantlle, ac am y bobl yn ymgasglu tu allan i Gwt y Band i wrando arno'n practeisio; ac am y nodau aflafar a ddeuai ambell noswaith oddi ar y llechweddau pan fyddai rhyw chwythwr ifanc yn practeisio ar ei ben ei hun. Gwrandawai'r gŵr â diddordeb mawr, a phan soniai am fand ei gyd-ardalwyr gloywai ei lygaid yn ei ben gan ei frwdfrydedd. A dyma Gougane Barra o'r diwedd, a phwy a all byth anghofio'r olygfa? O'n blaenau, ymestyn llyn tywyll, a mynyddoedd uchel yn ei amgylchu ar bob ochr ond yr ochr Ue safwn ni. Dyma waelod y cwm, lle yr ymarllwys y llyn i roddi cychwyn i Afon Lee. Atgoffeir ni bob un am Lyn Idwal, yn Eryri, ond nid oes ffordd feic yn arwain at y llyn hwnnw, a hyd y gwn i, nid oes Gegin y Cythraul ym mhen draw Cwm Gougane Barra. Pwll dwfn yn y ddaear sydd yma, wedi ei gafnio yn Oes y Rhew, a hwnnw wedi ei lenwi â dwr. Y mae ynys werdd yn agos i'r lan ar yr ochrdde inni, a sarn wedi ei chodi i gerdded trosodd ati. There is a green island in lone Gougane Barra, chwedl y bardd. Dyma lle y gwnaeth Sant Ffinbar (Fionn Barr, neu Barra), ei gartref cyn symud oddi yma i sefydlu Mynachlog Corc. Gwelsom weddillion hen eglwys, a chelloedd yn yr ochrau, a mân offrymau wedi eu gosod ar astell yma ac acw, ac adfeilion lluniau wedi eu cerfio mewn cerrig ar yr ochrau. Yr oedd hysbysiad mewn argraff gerllaw: "Yma y safai, yn y chweched ganrif, Gell Sant Ffinbar, esgob cyntaf Corc"; ac ychydig yn nes i'r lan yr oedd Eglwys Goffa fechan newydd, odiaeth o hardd. Crwydrasom o dan y coed ym mhendraw'r ynys, a gweld lle mor ardderchog ydoedd i bysgota. Ceisio dychmygu pa fath Ie ydoedd yn y chweched ganrif, pan oedd yr unigedd a'r distawrwydd heb ei dorri gan brysurdeb ymwelwyr chwilfrydig, a chan sŵn cyrn ceir motor. Lle bendigedig i feudwy i ymneilltuo i fyfyrio. Ac O'r tawelwch a'r harddwch! Gwyn fyd na fuasai gennyf ddiwrnod neu ddau yn rhydd i gerdded i ben pellaf y cwm, o swn a golwg pawb, heb neb ond dyfroedd glas tywyll y llyn, a'r mynyddoedd urddasol yn gwmni imi. Dyna oedd gwynfyd yr hen sant.