Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS YSGRIFENNIR y nodiadau hyn o'r llwch a'r llaca sydd yn y Swyddfa y dyddiau hyn. Penderfynwyd ei bod yn hen bryd cael sbring clîn o ddifri yn yr offis, a symud pethau rownd a newid o un ystafell i'r llall, cael tynnu hen gratiau di-fudd a hyll i ffwrdd, a phlastro'r lIe wedyn ac yna mynd ati i beintio a phapuro. Er yr holl annibendod, daliwn ati mewn gobaith na fyddwn wedi cadw neb yn rhy hir heb eu hateb. Soniais y tro o'r blaen fod yr Etholiad Cyffredinol wedi tarfu peth ar gychwyniad rhai o'n dosbarthiadau, ond yn wir, y mae'r mudiad fel pe bai am wneuthur iawn am yr anhwylustod ar ddechrau'r tymor. Y mae bywiogrwydd newydd i'w deimlo, mae'r ceisiadau am gyrsiau byr ar ôl y Nadolig wedi dylifo i mewn i'r swyddfa, ac y mae llewyrch ar y gwaith. Cawsom Ysgol Ben-Wythnos-Gysylltiol (linked week-end School) ym mis Chwefror, cwrs o ddau ben-wythnos yn dilyn ei gilydd o fewn pythefnos, a'r un rhai yn dod yno ddwywaith, gan astudio'r pwnc yn ei flaen tros y ddau ben-wythnos. Daeth tros hanner cant o undebwyr yno i bob un o'r cyfarfodydd. Y darlith- ydd oedd Edward Williams, athro-trefnydd newydd y WEA yng Nghanolbarth Cymru, a'r pwnc oedd Problem Cyflogaeth Lawn (Problem of Futl Employment); cafwyd hwyl eithriadol ar y fentar. Ychydig yn nes ymlaen, cynhaliwyd Ysgol Fwrw Sul ym Mae Colwyn i undebwyr ieuainc a Charles Quant a William Edwards yn darlithio ar y cwestiwn o berthynas y gwledydd tlawd a'r gwledydd cyfoethog; ysgol dda iawn. Cafwyd trydedd Ysgol Ben-Wythnos i undebwyr yng Ngholeg Harlech, ac yn Gymraeg. Yn y prynhawn, cyn cychwyn yr Ysgol Ben-Wythnos cynhaliwyd darlith gyhoeddus yn y Coleg a Goronwy O. Roberts, A.S., y Gweinidog Gwladol dros Gymru, yn annerch. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mrs K. W. Jones Roberts. Yr oedd yno tros drigain o fyfyrwyr. Diolchwyd i'r siaradwr gan Aneirin Owen a Mrs J. Cadvan Jones. Cawsom de yno wedyn gyda'n gilydd, wedi ei ddarparu'n ddestlus gan staff y Coleg. Wedi'r te dechreu- wyd ar yr Ysgol Ben-Wythnos â Darlith gan Edward Williams ar Broblemau Cymru. Fore Sul, cawsom Ddarlith gan W. Brothen Jones, ein hathro-trefnydd newydd yn Sir Feirionnydd, ac un arall gan Edward Williams cyn cinio, a hefyd ar ôl cinio i gloi'r cwrs. Yr oedd hon yn ysgol benigamp, a chynulliad o ddau ddwsin o undeb- wyr Cymraeg wedi dod ynghyd. Yr oedd yn dda gennym weld fod