Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Warden Coleg Harlech wedi mendio ddigon i allu taro i mewn i'n gweld ar y Sadwrn. Mae Canolbarth Cymru yn bywiogi'n arw. Trefnodd Cangen Dyffryn Banw Ysgol Undydd o Seiat Holi wych, a thros ddeg a thrigain wedi dod ynghyd yno er yr eira mawr. Cangen Bro Ddyfi hefyd yn trefnu Ysgol Undydd a Seiat Holi. Cynhaliwyd hefyd Ysgol Undydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac un arall yn Llanrwst, a John Gwilym Jones yn darlithio yn y ddau le. Bu Cangen Uwchaled yn un o'r rhai mwyaf blodeuog ar un tro; ac er i'r gangen edwino yn ystod y blynyddoedd diweddar, ni phall- odd y dosbarthiadau i gyd. Mewn gwirionedd cychwynnwyd dau newydd yno yn ystod y gaeaf a buont yn llwyddiannus iawn. Ond yn fwy na hynny, cododd rhyw ymdeimlad yno y dylent gael y gangen yn ôl rhag colli ohonynt y gweddill o'u dosbarthìadau. I'r perwyl hwnnw, trefnwyd cyfarfod o gynrychiolwyr y dosbarthiadau yn Ninmael i'r diben o ail-sefydlu'r gangen a hefyd drefnu cyfres o Ddarlithiau Prifysgol yn y cylch i ail ennyn yr hen ddiddordeb. Cafwyd cyfarfod gwych yn Ninmael, a Dr Ifor Davies yn cadeirio. Rhowd y gwaith ar y gweill gyda brwdfrydedd, ac fe gynhelir cyf- arfod arall yr wythnos nesaf i gwpláu'r trefniadau. Mae yna ragolygon disglair y cawn weled Cangen Cylch Uwchaled yn ail godi yn gangen rymus a gweithgar eto, fel yn y dyddiau gynt. Braint yw cael cymdeithas gyda'r saint, meddai'r emyn; felly yn sicr y cyfrifaf hi i gael egwyl fer gyda'r dosbarthiadau y gallaf ymweld â hwynt. Dau ddosbarth yng Nghaernarfon yn ddygn gyda Gwerth- fawrogi Celfyddyd. Pentrefoelas, dau yno hefyd. Soniais am un yn rhifyn y Gwanwyn, ond y tro hwn y ddrama oedd y testun a diddorol iawn oedd cael bod yno gyda hwynt. Yn Rhoshirwaun, yr oeddynt yn bur ddwfn mewn Athroniaeth, ond eto'n cadw'u pennau uwch y don. Pleser oedd cael cyfarfod â hen gyfeillion yng Nghemaes a Glan Conwy; hefyd Llanfechell a Rhosesmor. Bu dosbarth Cricieth yn anffodus yn colli gwasanaeth eu hathro, Robert Owen, Llanllyfni, ond llwyddasom i'w gario ymlaen i ddiwedd y tymor. Hyderwn yn fawr fod Mr Owen wedi llwyr wella erbyn hyn. Gofid calon oedd y newyddion am farwolaeth rhai a fu'n gyfeill- ion gwerthfawr i'r WEA. Cydymdeimlwn yn fawr â Mrs C. J. Kenyon Jones ym marwolaeth ei gwr. Yr un modd hefyd â Mrs Tom Morris yn ei gofid o golli ei gŵr, yr amryddawn Tom Morris. Digalon hefyd oedd clywed am farwolaeth Mrs J. Alun Thomas, ymhen deunaw mis ar ôl colli ei gwr, J. Alun Thomas, un a fu'n gefn i'r WEA am flynyddoedd. Yr ydym yn ddiolchgar iawn am gael mwyn- hau eu cymdeithas, a derbyn o'u cefnogaeth.