Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nifer o'r Clybiau hyn i drefnu Cyrsiau am chwech neu ddeuddeng wythnos. Trefnwyd oddeutu dwsin o Gyrsiau, a bu'r arbraw yn llwyddiant digymysg. Y mae Mr Higgins, sydd yn Fielà Officer rhagorol, ac yn wr gweithgar iawn, yn hyderus y gellir ehangu'r gwaith hwn. Os gellir, bydd yn un moddion i bontio'r agendor sydd rhwng y bobl ieuainc o 18 i 25 oed a'r rhai hyn ac aeddfetach a fydd yn gyffredin yn mynychu ein dosbarthiadau. Cynhaliwyd yr olaf o'r tair Ysgol Fwrw Sul ar Effaith Technegol ar Ddiwydiant a Chymdeithas ym Mhorthcawl, Ebrill 24 a 25. Cafwyd ceisiadau oddi wrth 73 o fyfyrwyr, yn perthyn i wahanol Undebau, am Ysgoloriaethau i fynychu'r tair Ysgol. Dewiswyd 30 — dyna'r nifer fwyaf a ganiatâi'r TUC. Ffisegydd ieuanc, Dr Peter Marsden, oedd y Darlithydd a ofalai am y cwrs, a gwnaeth waith rhagorol. Yr oedd ei ddarlithiau yn loyw ac yn ddiddorol, a chafwyd trafodaeth fyw iawn ar ddiwedd pob un. Cynhelir y gyntaf o'r gyfres newydd ym Mhorthcawl, Mai 8 a 9; y pwnc a ddewiswyd i'r gyfres hon ydyw Polisi Incwm (An Incomes Policy). William Gregory fydd yn darlithio i'r Ysgol gyntaf, a bydd yn trafod y pwnc oddi ar safle economydd. Yna, yn yr ail Ysgol, bydd R. C. Mathias, Trefnydd Rhanbarthol y TGWU, yn traethu ar y pwnc o safle arweinydd Undeb Llafur, a bydd cynrych- iolydd Cymdeithas y Cyflogwyr yn annerch y drydedd Ysgol. Der- byniwyd 92 o Geisiadau am y 30 lle yn yr Ysgolion hyn. Yr ydym yn awr yn cynllunio cyfres o Ysgolion Arbennig i Undebwyr Llafur ar Berthynas mewn Diwydiant ac Economeg, o dan Gynllun newydd y TUC. Bu'r rhai sy'n ymwneud yn broffesiynol ag Addysg Pobl mewn Oed yn teimlo ers cryn amser fod eisiau mwy o gydweithrediad rhwng yr awdurdodau a'r cymdeithasau sy'n gofalu am yr Addysg hon yng Nghymru, ac y dylid creu peirianwaith i gydgysylltu eu gwaith, a thrafod y problemau a fydd yn codi o dro i dro. Cynhaliwyd Cynhadledd ar Addysg Mewn Oed ym Mhlas Gre- gynog, Ddydd Gwener, Ebrill 9. Yr oedd yn gyfarfod cofiadwy am mai dyma'r tro cyntaf i gynrychiolwyr cynifer o Gymdeithasau ddod ynghyd. Yr Athro D. W. T. Jenkins, Bangor, a roes yr anerchiad cyntaf, anerchiad i ddeffro meddylgarwch. Cododd Mr Jenkins y cyfarfod i dir uchel, a gwnaeth yr union beth a ddisgwyhai'r rhai a'i hadwaenai oddi wrtho. Yn y prynhawn, cafwyd trafodaeth ar broblemau Addysg Mewn Oed yng Nghymru. Arweiniwyd y drafod- aeth gan T. J. Morgan, Cyfarwyddwr Addysg Sir Fynwy, a llywydd- wyd, yn ei dull medrus arferol, gan yr Henadur Lottie Rees Hughes.