Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDD Heb Amser i Farw. T. Glyn Thomas. Gwasg Gee. 12/6. Aeth y golau allan o'n bywydau ac y mae tywyllwch ym mhob man. Nid yw tad ein cenedl mwyach." Dyma eiriau Nehru dros y radio ymhen ychydig oriau wedi llofruddiad y Mahatma Gandhi yn Ionawr 1948. Pe chwiliem yr holl fyd am Gristion tebycach ei fywyd i Sylfaen- ydd ei grefydd, ni allem ddod o hyd i enghraifft well na Kagawa Dyma eiriau y Rabbi Bernstein mewn teyrnged i Gristion mawr Japan. Os oes Cymro ar gael heb wybod nemor ddim am na Gandhi na Kagawa nid rhaid iddo ond darllen Heb Amser i Farw yn unig er mwyn sylweddoli nad defnyddio gormodiaeth a wnaeth Nehru a Bernstein. Teyrnged i'r Parchedig T. Glyn Thomas yw dweud hyn gan iddo lwyddo mewn modd eithriadol i roddi inni fywgraffiadau mor gytbwys a chynhwysfawr o'r ddau sant. At hyn, gosododd anrhydedd ar Gymru drwy adrodd stori'r ddeuddyn nodedig hyn yn Gymraeg fel y gwnaethai eisoes â bywyd a gwaith Schweitzer. Yr oedd Gandhi yn Gristion ym mhob peth o bwys ond nid mewn enw. Ystyriai'r Testament Newydd, yn arbennig y Bregeth ar y Mynydd, yn un o'r dylanwadau mwyaf ar ei fywyd ynghyd â'r ysgrythurau Hindwaidd. Bu'n wiw ganddo gydnabod ei ddyled i weithiau Tolstoi a Ruskin. Pwysleisir mai teyrngarwch i wirionedd oedd sail ac ysbrydiaeth popeth iddo, a ffordd caru oedd ffordd y gwirionedd. Gallai Gandhi garu yn greadigol a gweddnewidiol. Fel Crist yr oedd yn ei santeiddio ei hun er mwyn eraill. Yr oedd yn weddïwr cyson, Ni chyflawnaf un weithred heb weddi meddai. Gweddi yw'r allwedd i'r bore a bollt i'r hwyr. Fel y mae bwyd yn anghenraid i'r corff, felly y mae gweddi i'r enaid. Nid wyf fi'n ddyn dysgedig, ond maentumiaf yn ostyngeidig fy mod yn weddiwr." Daliai fod hunan-ddisgyblaeth yn ffordd i hunan-lywodraeth, nid yn unig yn bersonol ond yn genedlaethol. Fe'i disgyblodd ei hunan, gorff, meddwl ac ysbryd a hawliai'r un ddisgyblaeth oddi ar ei ganlynwyr. Dyma hanfod pob gweithredu didrais oedd yn rhan annatod o'i ymdrechion gwleidyddol a chenedlaethol. O'i ffydd grefyddol ddigryn a'i hunanymwadu llwyr y deilliodd ei afael anhygoel ar filiynau yr India a'i nerth diarf rhyfeddol yn plygu yr Ymherodraeth Brydeinig gref-arfog wrth ei draed. Yr oedd ympryd syml yn effeithiolach arf yn ei law ef na lleng o filwyr dan