Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

heddiw pe rhoddasid Vaughan Thomas yn un o'r swyddi hyn. Un peth a wyddom-pan ddewisodd ef gefnu ar Fathemateg, ac ymroi fel cerddor, agorodd ddrws i lawer o lawenydd ac i lawer o siom. Y mae llyfr Mr Cleaver yn llanw bwlch amlwg ar silff lyfrau pob Cymro cerddgar. Adroddiadau'r Cysegr gan Abiah Roderick. Gwasg John Penry. 4/6. Aeth Matilda ag Abiah Roderick yn gyfystyr â'i gilydd ymron. Ni ellir meddwl am y naill heb gofio am y llall. Bu Matilda yn llygad a chlust a thafod i Abiah ers tro byd, a hynny er dirfawr lawenydd i bawb ohonom. Sut y gallodd ef ymlwybro tua Gwasg John Penry i gyflwyno'r caneuon hyn, a gadael Matilda gartref, mae'n anodd dyfalu. Nid un i'w hanwybyddu yn hir yw hi, a thebyg y daw'n ôl eto. Abiah yn ei dillad parch a geir yn y casgliad hwn, fel yr awgryma'r teitl, Adroddiadau'r Cysegr. Ni all neb achwyn nad oes yma ddigon o amrywiaeth mewn pynciau, ffurfiau a moddau, amrywiaeth der- byniol iawn ar gyfer gwaith gyda phlant a ieuenctid. Mae yma ganmol ceinderau Natur, diolch am amryfal fendithion bywyd, a swcwr i fawrhau y safonau a'r gwerthoedd Cristnogol. Mae yma ddarnau yn taro'r Ŵyl Ddiolchgarwch a darnau'n gweddu i'r Nadolig. Yn yr Adran Cyd-adrodd ceir ymddiddanion sy'n dwyn i gof yr hen ymddi- ddanion a dadleuon a fu'n boblogaidd mewn Gobeithluoedd ers talwm. Hefyd Holwyddoreg ar gân. Mae'n amlwg fod yr awdur wedi cofio am fwy nag un oedran, gan iddo baratoi darnau clìr a syml ar gyfer y to ieuengaf, a chaneuon beth yn drymach i'r rhai hyn. Yn wir, gyda'r olaf gallasai fod wedi ymroi mwy i sicrhau eglurder mewn ambell gymal. Ni ellir fforddio unrhyw amwysedd mewn darnau a fwriadwyd i'w hadrodd yn hytrach na'i darllen yn ham- ddenol. Ie, naws grefyddol sydd i'r caneuon hyn, ac amheuthun yw'r didwylledd sy'n eu nodweddu. Y mae Abiah Roderick yn ddiwar- afun ei barch i sant o'r iawn ryw, ond yn ddiamynedd â phob mursen- dod crefyddllyd fel y tystia'r caneuon Y Dyn Da a Y Ffŵl. Ai ei weithiau blaenorol sydd wedi cyflyru fy nisgwyliadau ni wn i, ond yn fy myw y gallaf gymryd at ei ganeuon di-dafodiaith fel at Y Clown, Ond, Y Graig a'r Prom, ac eraill. Da yw gweld Gwasg John Penry yn gwneud llyfryn mor hylaw o'r gwaith hwn. Dylai fod prynu mawr arno.