Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yd Cymysg gan Gwilym G. Jones. Gwasg Clwydian. 6/6. Casgliad yw hwn o ysgrifau, anerchiadau a barddoniaeth trigol- ion bro Uwchaled yn Sir Ddinbych, yn bennaf Presbyteriaid y cylch, ac yn ymwneud yn bennaf â hynt a helynt yr achosion Presbyteraidd, yn arbennig eu Hysgolion Sul. Mae yna adrannau na ddichon iddynt fod o fawr diddordeb i neb o'r tu allan i'r ardal, megis llawer o sylwadau digon ystrydebol ar yr Ysgol Sul, ac enwau na olygant fawr ddim i neb ond yr ardalwyr eu hunain. Trwy drugaredd, cedwir ffresni yn y llyfryn gan gyfran- iadau gwir ddiddorol eraill, sy'n profi fod yna bobl hyddysg yn y pethe yn ymwybod â'u gwreiddiau ac yn falch o'u cefndir. Onid dyma fro Jac Glan-y-gors ac Edward Morus? Yr argraff a edy'r llyfryn arnaf yw fod yma o hyd gymdeithas glòs, yn mawrhau capel, eisteddfod a dosbarth WEA. Bu'n ffodus yn ei gweinidogion a'i hathrawon hyd heddiw, a cheir yma ieuenctid sy'n barod i ymateb i bob arweiniad a roddir iddynt. Yng ngeiriau un o blant Uwch- aled, y Parchedig Huw Roberts, Llanrug- Hoh a ymlŷn â mawl Iôr, Wrth ddiwylliant, wrth allor. Diolch am feddyg gwlad yn cael blas ar lên a barddas, megis y Dr E. J. J. Davies. Ysgrifau gwerthfawr yw eiddo'r Parchedig J. T. Roberts, Robin Gwyndaf Jones, D. Tecwyn Lloyd (ysgrif a godwyd o Ueufer), a chalonogol yw sylwadau'r gweinidogion ifainc. Gellid chwynnu peth ar y casgliad, ond y mae'r syniad yn un da. Gall fod yn gyfraniad i hanes bro ac y mae'n foddion hysbysu cylch- oedd eraill am ragoriaeth bywyd un ardal arbennig. R. GWYNEDD JONES Gyda'n Gilydd, Sylwadau ar yr Argymhellion am Undeb rhwng Anglicaniaid a Methodistiaid yng Nghymru, gan Grìffith T. Roberts, Cadeirydd Ail Dalaith Gogledd Cymru, a G. O. Wil- liams, Esgob Bangor. Llyfrau'r Dryw. 2/6. Cynhaliwyd cynhadledd o weinidogion yr Eglwys Fethodistaidd, Ail Dalaith Gogledd Cymru, ac offeiriaid Esgobaeth Bangor, Rhagfyr 18, 1964, i drafod undeb rhwng yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys yng Nghymru. Traddododd y Parch. G. T. Roberts, Cadeirydd yr Ail Dalaith, anerchiad ar gefndir y mudiad yn glir a manwl, ac Esgob Bangor anerchiad ar y gwasanaeth cymodi a