Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

awgrymir, gan ateb yn fanwl yr holl ensyniadau ynghylch anonest- rwydd geiriol tybiedig y dull o gyfleu'r amodau. Cynigir cynnal cyf- arfod ac ynddo esgob yn rhoi ei law ar bennau gweinidogion yr Eglwys Fethodistaidd fel arwydd o'u derbyniad i holl freintiau'r Glwys yng Nghymru, yn cynnwys gweinyddu'r cymun, a gweinidog penodedig o'r Eglwys Fethodistaidd yn gwneud yr un peth â'r offeir- iaid i'w derbyn i lawn freintiau'r Eglwys Fethodistaidd. Y ddau anerchiad hyn yw cynnwys y pamffled hwn. Ymddengys hyn ar yr wyneb yr un peth ar y ddwy ochr, ond y mae gwahaniaeth. Pe newidid pulpudau rhwng offeiriad a gweìnidog, ac i'r Cymun Sanctaidd fod yn y ddau addoldy, byddai croeso i'r offeir- iad weinyddu'r cymun yn y capel, ond ni chaffai'r gweinidog wein- yddu yn yr eglwys. Oni thybia hyn fod gwahaniaeth hanfodol rhwng arwyddocâd y ddau ddodi dwylo? Pwysleisir yn y pamffled nad yw gwaith yr esgob yn dodi llaw ar ben gweinidog yn gyfystyr ag ail-ordeinio. Carwn, fodd bynnag, wybod beth yw agwedd yr offeiriaid tuag at hyn­a dybiant hwy fod gosod llaw'r gweinidog ar eu pennau hwy yn gyfystyr â gwaith yr esgob yn gosod ei law ar ben y gweinidog? Rhydd ei waith ef awdurdod i'r gweinidog i weinyddu'r cymun yn yr eglwys, ond ni rydd gosod llaw'r gweinidog ar ben yr offeiriaid unrhyw awdurdod newydd iddo nad yw ganddo eisoes os dymuna ei gymryd. Erbyn hyn, y mae'r cynigion wedi eu gosod gerbron Cyfarfodydd Chwarter y gwahanol gylchdeithiau, a chryn nifer mwy na'r disgwyl wedi eu gwrthod, a bydd eisiau dwylo celfydd iawn i'w morio drwy'r cerrynt croesion, neu fe ddymchwelir y cwch a'r diwedd yn waeth na'r dechreuad. E. TEGLA DAVIES Tomos o Enlli, gan Jennie Jones. Gwasg y Dryw. 4/6. Wedi treulio oes gyda'i gyfoedion yn nhawelwch Enlli, daethai Tomos Jones, fel llawer o'i gymrodyr, i aros yn Aberdaron. Ef oedd un o'r rhai olaf o hen deulu Enlli ac yno yn ei gadair câi wrando ar swn y Swnt yn y pellter, a myfyrio ar y 11u atgofion o'r dyddiau dedwydd ar yr Ynys. Yno, ambell hwyr, tra gweinyddai ei phriod rhadlon ar gleifion y cylch, dôi Jennie Jones i wrando ac i sgwrsio. Yn ffodus i'n darllenwyr, aeth hi ati i gofnodi'r hyn a glywodd, a throsglwyddo'r atgofion rheiny yn ddarluniau byw­yn grefftwaith mor naturiol nes ein twyllo ar adegau i gredu mai Tomos Jones ei