Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hun sydd yma. Gresyn na chawsai yntau weled y gyfrol hon. Duwc Anwl fuasai'n dweud, yn ôl ei arfer; ond ni chafodd y cyfle. Erys pob darlun yn fyw, gan ddangos nid yn unig Enlli ddoe, ond Tomos Jones ei hun a'i ffraethineb gwladaidd, ac yn gymysg doreth o draddodiadau a gadwyd ar gof cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth. Dyma rai o'r patrymau-Y cig mochyn ryw lathen odewder; gwneud burum gwlyb, a cholbio'r haidd yn y fargen; dal penwaig a'u halltu ym Mhortinllaen; Wil Huws yn bwyta'r penwaig cochion. Bwganod a llongddrylliadau, ogofau a môr-ladron, ac ymlaen o ddarlun i ddarlun. Rhyfedd fel y mae traddodiad yn ffurfio. Dyma stori'r môr- ladron a'r hen General yn sicr wedi dod i lawr o gof i gof gan newid ychydig yma ac ychydig acw ond yn bur sicr â'i sylfaen ar hanes y John Wyn hwnnw o Fodfel a lwyddodd i ennill ffafr y Brenin ac a gafodd ynys Enlli yn y fargen am ei ddewrder ym mrwydr Norwich. Ac os gwir yr ensyniadau a geir yng nghofnodion y cyfnod, enillodd ychwaneg o gyfoeth o'i ymhel agos â'r môr-ladron a gartrefai o gwmpas Enlli! Ond mynnwch y gyfrol. Gwnaeth Jennie Jones lawer cymwynas i blant Llyn a Chymru drwy ei llyfrau lliw a'i chanu gwerin. Dyma gymwynas eto a erys bellach yn rhan o'n hetifeddiaeth. Hyderwn y cawn ychwaneg. Diolch iddi. CARADOG JONES Four Stories for Welsh Learners, gan Ifor Owen. Gwasg Gee. 7/6. Erbyn heddiw, y mae pob darpariaeth gogyfer â dysgu Cymraeg i bawb sy'n awyddus i feistroli'r iaith. Cyhoeddwyd nifer helaeth o lyfrau i'r perwyl hwnnw, a cheir gwersi fel Welsh for Beginners ar y radio. Gellir tybio, felly, fod nifer fawr erbyn hyn yn dra hyddysg yn yr iaith i bwrpas sgwrsio, ac o bosibl yn dyheu am lyfrau i'w darllen. Ond, ysywaeth, erys prinder o'r llyfrau hynny, ac ymgais yw'r llyfr yma gan Ifor Owen i gyfarfod â'r galw hwnnw. Gwyddom i gyd am ddiwydrwydd ac ymdrechion yr awdur hwn gyda gwaith o'r fath ar gyfer plant trwy gyfrwng Cymraeg. Fel y nodir yn y Rhagymadrodd, ni honnir unrhyw ragoriaeth lenyddol i'r storïau. Yn syml, adroddir pob stori am ddigwyddiadau cyffredin pob dydd, gan ddefnyddio sgyrsiau a geirfa y mae'r dar- llenydd yn gyfarwydd â hwy eisoes trwy'r Gwersi Cymraeg. Hyd y mae'n bosibl, cyfyngir ar yr eirfa a'r ymadroddion, gan eu hail- adrodd drosodd a throsodd, fel y bo'r darllenydd wedì eu meistroli cyn diwedd y llyfr. Gan fod cymaint o sgwrsio yn y storïau, defn-