Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cyf. XXIV 1968 Rhif 2 NODIADAU'R GOLYGYDD Mewn dwy araith a draddododd yn ddiweddar, un yn Leeds a'r llall ym Mhrestatyn, bu i Mr. Enoch Powell ymdrin â chened- laetholdeb. Nid oedd y syniad o hunan lywodraeth i Gymru a'r Alban yn wrthun ganddo. Diddorol i mi, fel cenedlaetholwr, oedd darllen ei sylwadau; ond ni allaf dderbyn y cwbl a ddywed- odd. Mewn un rhan o'i araith yn Leeds dywedodd Mr. Powell, if it were ever the preponderant and settled wish of either Wales or Scotland to be themselves a nation and therefore no longer to be part of this nation (y genedl Brydeinig), that wish ought not to be resisted." Y mae Mr. Powell cystal a dweud felly nad oes y fath beth â chenedl Gymreig, na chenedl Alban- aidd yn bod ar hyn o bryd. Ond dywed fod yna genedl Brydeinig. Fe gredaf i yn hollol i'r gwrthwyneb: nad oes y fath beth â chenedl Brydeinig, ond bod cenedl Gymreig a chenedl Albanaidd. Yr hyn sydd gennym yw cenhedloedd Prydeinig, a'r cenhedloedd hyn oddifewn i ffiniau yr un wladwriaeth, y wladwr- iaeth Brydeinig. Yr hyn y ceisia cenedlaetholwyr ei wneud yw: nid sefydlu cenhedloedd yng Nghymru a'r Alban (mae'r rhain yn bod yn barod), ond sefydlu gwladwriaethau rhydd yn yr Alban, Lloegr a Chymru. Yna aeth Mr. Powell ymlaen i ddweud beth y mae ef yn ei feddwl wrth hunan lywodraeth, it means having all the essentials of sovereignty: government, currency, central bank, parliament, taxation, laws, police, defence-it means being approximately as the Republic of Ireland is to-day." Cyn hynny dywedasai Mr. Powell, it does not mean having the best of both worlds, the penny of one's own nationhood and the biscuit of being part of a large and wealthy nation." Wrth gymharu y ddau ddyfyniad yma ymddengys nad yw Mr. Powell wedi deall yn glir beth yw'r berthynas sydd rhwng Eire a Phrydain. Mewn erthygl a ymddangosodd yn y Guardian ar y chweched o Hydref dywedodd John Grigg fod y berthynas hyn yn un arbennig, a bod