Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMRYS JENKINS (1902 1968) Gan C. R. Williams Brynhawn Gwener, Awst 23, bu farw Emrys Jenkins. Mae'n sicr fod clywed y newydd trist wedi dwyn yn ôl lu o atgofion i nifer fawr o bobl, o Sir Fôn i ddwyrain Sir Ddinbych. Brodor o Rhosllannerchrugog-"Y Rhos"— oedd Emrys, a bu'n athro dosbarthiadau Adran Allanol Coleg y Brifysgol, Bangor, am dros ddeng mlynedd ar hugain: ac yn ystod y cyfnod hwn mae'n sicr iddo fod yn diwtor ar ddosbarth, neu yn darlithio'n achlysurol ar ran Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, bron ymhob un o siroedd y Gogledd rywdro neu'i gilydd. Bu ar hyd yr amser yn un o gefnogwyr mwyaf selog Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ("Y W.E.A."), ac am flynyddoedd yr oedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith y Rhanbarth. Yr oedd Emrys "yn credu" yn y W.E.A. ac y mae'n hawdd deall paham. Wedi gadael yr ysgol yn bedair ar ddeg oed aeth, cyn bo hir, i weithio ym Mhwll Glo'r Hafod lle bu cenedlaethau o ben- teuluoedd y Rhos yn ennill eu bara beunyddiol. Yr oedd y W.E.A. yn cynnal dosbarth tiwtorial yn y Rhos yn y dyddiau hynny o dan arweiniad Mr. A. H. Dodd (fel yr oedd yr adeg hon- no; yr Athro A. H. Dodd erbyn heddiw) ac ymunodd Emrys â'r cwmni oedd yn perthyn iddo. Am rai blynyddoedd wedyn yr oedd bywyd Emrys yn cynnwys gofalu am ei geffyl i lawr yng nghrom- bil y ddaear am ryw wyth awr o bob diwrnod gwaith, a threulio y rhan fwyaf o'i oriau hamdden yn darllen y llyfrau y byddai athro'r dosbarth wedi tynnu ei sylw atynt, a'u trafod gydag aelodau eraill y dosbarth. Yr oedd Emrys ar hyd ei oes yn ddarllenwr mawr. Dywedodd un o'i gyfeillion wrthyf rai blynyddoedd yn ôl, "Wel di, bob tro y bydda'i yn galw i weld Emrys, os ydyw yn y ty, gelli fentro y bydd o'n darllen". Ei hobi mawr arall, fel y cofiwn i gyd, oedd cerddoriaeth. Canlyniad mynychu'r dosbarth a chael blas ar ddarllen (ac, y mae'n sicr, cael gair o gyngor gan yr Athro Dodd) oedd i Emrys yn 1927 ddod i Fangor i ddechrau ar gwrs gradd. Yr oedd dau gyfaill mawr iddo eisoes wedi cymryd y cam, sef D. C. Mitchell a'r diweddar Emlyn Rogers-ac yn ddiameu bu eu hesiampl hwy yn symbyliad iddo. Ymunodd Emrys felly â chwmni lled arbennig