Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Alun Llewelyn-Williams yn ei araith goffa ddiwrnod yr angladd, nid oedd Emrys yn ysgolhaig yn yr ystyr iddo ysgrifennu llyfrau a gwneud gwaith ymchwil oedd yn taflu goleuni newydd ar ryw destun neu'i gilydd: ond bu'n ysgolhaig ar hyd ei oes mewn ystyr arall-am iddo barhau o hyd i chwilota a dysgu. Parhaodd y cywreinrwydd a'i harweiniodd i'w ddosbarth W.E.A. cyntaf yn rhan ohono ar hyd ei oes. Ni flinodd ar gasglu gwybodaeth a thrafod syniadau. Ein hadwaith i'w farwolaeth yw gresynu na chafodd seibiant ar ôl ei lafur. Yr oedd i ymddeol ar Fedi 30 eleni. Gorffenasai ei dasg swyddogol olaf fel tiwtor llawn-amser-sef gofalu am "seminar" yn yr Ysgol Haf i Americaniaid ym Mangor y diwrnod cyn ei daro'n wael, ac edrychai ymlaen at fynd i Awstria am ychydig o wyliau cyn cychwyn ar ei ymneilltuad. Yn unol â'i gymeriad trefnus yr oedd eisoes wedi gofalu fod eraill i gymryd ei ddosbarthiadau drosodd, ac o'i weld yn cilio mor gyflym o waith yr adran, mentrais ofyn iddo beth oedd yn ei fwriadu ei wneud wedi iddo ymddeol. Atebodd, "Wel, diogi yn siwr,-diogi a darllen. A dyna ddifyr fydd cael darllen jest be' sydd gen-i eisio 'i ddarllen, yn lle darllen ar gyfer darlith. Ac mi fydd gen i'r côr; ac mi rydwi'n edrach ymlaen at ddod i wrando arnat ti yn darlithio i'r dosbarth yn y Rhos". Yr oeddwn i hefyd yn edrych ymlaen at gael ei gwmni yntau yn y Rhos ar ambell i nos Fercher, a gwrando arno. Ond nid felly yr oedd hi i fod. Ni fu Emrys yn wr priod. Cydymdeimlwn yn fawr iawn â'i chwaer, Miss Sarah Jenkins, a fu'n cadw cartref iddo am gynifer o flynyddoedd. Hefyd cofiwn am ei frawd a'i chwaer- yng-nghyfraith ac yn arbennig am Gwyn, ei nai, a oedd mor annwyl ganddo. Gwelais rai blynyddoedd yn ôl ar garreg fedd ym mynwent eglwys Clynnog Fawr y geiriau a ganlyn, a chofiaf i mi feddwl ar y pryd pwy tybed o'm cydnabod a fuasai yn haeddu'r fath alar a'r fath glod. Yr wy'n siwr y buaswn yn cyfrif Emrys Jenkins yn eu plith. "Ar ei ôl hir yr wylwn Daioni oedd doniau hwn."