Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ei ddarlithiau ef ac eiddo'r Dr. R. Williams Parry yn wynfyd pur. Daeth Gerallt yn llwyr dan gyfaredd R. Williams Parry a byddai'n hoff iawn o adrodd dywediadau bachog y bardd mawr hwnnw mewn darlith ac mewn sgwrs bersonnol. Arwyr R. Wil- liams Parry oedd ei arwyr yntau, yn arbennig y beirdd Saesneg diweddar, A. E. Housman, Walter de la Mare a W. H. Davies ac o feirdd y gorffennol, Keats yn anad neb. Er bod Gerallt yn hyddysg iawn yng ngweithiau'r beirdd Cymraeg, credaf mai Keats, W. B. Yeats, ac yn rhyfedd iawn, Gerard Manley Hopkins, oedd ei fferfrynnau. Ond ei eilun llenyddol oedd Robert Williams Parry. Symudodd o Fangor i'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth ac yno daeth i adnabod Prosser Rhys. Ai'n fynych i swyddfa Prosser Rhys am sgwrs a mygyn ac ai'r ddau am dro ar hyd y prom. Yn ystod y cyfnod hwn cyhoeddodd amryw gerddi yng Ngholofn Farddol Y Faner a oedd dan olygyddiaeth Prosser Rhys. Barddoni oedd nwyd lywodraethol ei fywyd a'r canlyniad oedd nad oedd yn talu'r sylw a ddylai i'w wersi ac yr oedd oher- wydd hynny'n tynnu gwg awdurdodau'r Coleg a'r Cyfundeb. Ei gyfaill pennaf ar staff y Coleg Diwinyddol oedd y diweddar Athro David Morris Jones, un o feibion adnabyddus Maes-y-Groes yn Nyffryn Conwy. Yr oedd yntau, fel Dewi Williams, yn wr llydan ei ddiwylliant, yn ddynol iawn, yn oddefgar ac yn gyfaill cywir i'w fyfyrwyr. Yr oedd yn ddyddiau Rhyfel a daeth tro Gerallt i ymuno a'r fyddin. Penderfynodd sefyll fel gwrthwynebydd cydwybodol ac fe'i triniwyd yn erwin gan y Tribiwnlys. I un mor swil ac mor lled- nais ei ysbryd yr oedd hyn yn costio'n ddrud a bu'n rhaid iddo oddef cryn dipyn o erlid gan rai o wyr amlwg crefydd yn Nyffryn Conwy. Gwysiwyd ef i sefyll arholiad meddygol gyda'r bwriad o'i anfon i wneuthur gwaith dyngarol yn un o drefi mawr Lloegr gan fod y bomio erbyn hyn yn ei anterth. Oherwydd hen friw ar ei ysgyfaint fe'i gwrthodwyd ac fe'i danfonwyd i weithio ar y tir yn ei gartref yn y Ro. Dywedodd y Parch. Huw Llewelyn Williams yn ei ysgrif goffa yn Y Faner i Gerallt fod yn yr R.A.M.C., ond nid yw hynny'n gywir. Dichon mai teitl y soned Cyffes Gwrth- wynebydd wrth Ymuno a'r R.A.M.C.' a yrrodd ein cyfaill mwyn o'r Valley ar gyfeiliorn. Yn 1941 cyhoeddwyd cyfrol o farddoniaeth Gerallt gan Wasg Gomer yn dwyn y teitl Yn leuenctid y Dydd. Cofiaf yn