Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lefeinio cymdeithas a chredai mai ei ddyletswydd oedd ei chyhoeddi'n syml. Costiai hynny'n ddrud iddo, oherwydd er ei fod yn mwynhau cyfansoddi pregethau, yr oedd wynebu cynulleidfa yn drech arno, fel y cyfaddefodd wrthyf lawer gwaith. Beiblaidd yn hytrach na diwinyddol oedd ei ddiddordeb. Gwell ganddo hefyd osgoi pynciau dadleugar ac nid oedd ganddo ddim i'w ddweud wrth wleidyddiaeth. Ni bu ei iechyd yn dda er 1963 ond ar ol iddo symud i Fae Colwyn yn 1965 daeth i edrych yn llawer gwell er llawenydd mawr i'w gyfeillion. Eithr dechreuodd gurio'n gyflym ac fe'i symudwyd am archwiliad meddygol i Ysbyty Abergele ac oddi yno ar frys i Lerpwl, lIe y cafodd driniaeth lawfeddygol lem. Dychwelodd i Abergele ac yna i'w gartref ym Mae Colwyn. Pan elwais i'w weld dridiau cyn ei farw gwyddwn ei fod mewn poen ond mynai ddal ymlaen i sgwrsio. Estynnodd bapur ac amo englyn a luniasai'r pnawn hwnnw. Caiff yr englyn siarad drosto'i hun: Gwelais O'n rhannu golud gras y Nef Ar groes nadd rhwng deufyd; Yn Ei boen, a than benyd Yno 'roedd dros bobloedd byd. Dyna'r tro olaf imi ei weld. Daeth y diwedd yn annisgwyl nos Iau, 13 Mehefin, 1968. Gwell tyst na dim a ysgrifennwyd i'r lle a gafodd yng nghalon y bobl oedd y gynulleidfa fawr o dros ddau cant a hanner a ddaeth i Salem, Bae Colwyn fore ei angladd 18 Mehefin, dros ddeugain ohonynt yn weinidogion o bob enwad. Talwyd teyrnged iddo fel cyfaill a bardd gan y Parch. Huw Llewelyn Williams, y Valley a dywedwyd gair amdano fel gweinidog a chyfaill gan lywydd y cyfarfod, y Parch Gwilym Parry, ei olynydd yng ngofalaeth Llanfairfechan.